Un o gryfderau mawr busnesau cymdeithasol yw eu bod yn cymryd perchnogaeth ac yn dylanwadu ar ystod ehangach a nifer fwy o randdeiliaid ac aelodau na’r rhan fwyaf o fusnesau o faint tebyg. 


Y berthynas rhwng menter gymdeithasol a’i rhanddeiliaid

Mae ymgysylltu ag aelodau yn dda i randdeiliaid gan ei fod yn rhoi ffurf o ‘bleidlais’ iddynt. Mae hefyd yn dda i’r busnes cymdeithasol os yw’n llwyddo i baratoi’r rhanddeiliaid hynny i ymgymryd â’r cyfrifoldebau cyfatebol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at broffil a pherfformiad. Gall y berthynas rhwng y rhanddeiliaid a’r busnes cymdeithasol fod yn allweddol. 

I’r perwyl hwn, mae busnesau cymdeithasol effeithiol yn cynllunio i gynnal a gwella ymgysylltiad cadarnhaol â’u haelodau a’u rhanddeiliaid yn barhaus, gan sicrhau ystod o fewnbwn cyn gwneud penderfyniadau strategol. Mae hyn yn helpu cael y penderfyniadau hynny’n gywir ac yn golygu pan gaiff y penderfyniadau hynny eu rhoi ar waith, fod awdurdod y sefydliad cyfan y tu ôl iddynt. 

Mae hyn, yn ei dro, yn golygu ei bod yn haws paratoi cymorth, a’i droi yn negeseuon hyrwyddo cryf a chyson. Bydd yr union ffaith fod y sefydliad yn cael ei weld fel democratiaeth effeithiol sy’n dilyn strategaeth fusnes gydlynus yn ei gwneud yn haws recriwtio rhagor o gefnogwyr.  


Sut ydych chi’n ymgysylltu â rhanddeiliaid ac aelodau?

Efallai mai’r man cychwyn yw sicrhau yr eir i’r afael â’r rhwystrau amlwg rhag ymgysylltu. Os yw’r strategaeth bresennol ar gyfer ymgysylltu yn cynnwys gwahoddiadau achlysurol i gyfarfodydd hir a diflas, gallai fod angen ailfeddwl hyn ar raddfa fawr.  

Dylid adolygu’r strategaeth mynediad i sicrhau ei bod yn delio’n dda nid yn unig â mynediad at wasanaethau a chyflogaeth, ond hefyd at gyfranogi mewn aelodaeth a llywodraethu. Yn yr un modd, gellir adolygu’r Polisi Cyfle Cyfartal a’i strategaeth weithredu o ran rhwystrau seicolegol a diwylliannol.  

Gellir adolygu’r ddogfen lywodraethu ei hun yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei bod yn ‘cadw i fyny’ ag esblygiad y sefydliad ac yn galluogi ar gyfer cynrychiolaeth briodol o’r grwpiau rhanddeiliaid y mae’n ceisio ymgysylltu â nhw, a’r mecanweithiau y gallai eu caniatáu ar gyfer sefydlu grwpiau cyfeirio, prosesau ymgynghori a fforymau.  


Heriau llywodraethu i fentrau cymdeithasol 

Yr hyn sy’n achosi difreinio a dieithrio gan amlaf yw diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae’r strategaeth gyfathrebu yn allweddol yma. Mae cyfathrebu yn rhannol ynglŷn â chyfleu’r negeseuon cadarnhaol, ond mae hefyd ynglŷn â sicrhau bod aelodau a rhanddeiliaid yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o’r sefydliad y maent yn ymgysylltu ag ef, a gallai hyn olygu bod angen esbonio strwythur cyfreithiol, strwythur rheoli, polisïau allweddol a model busnes ar ffurf rhyw fath o ‘lawlyfr’ neu hyfforddiant sefydlu neu’r naill a’r llall. 


Ffyrdd o gynnwys rhanddeiliaid mewn llywodraethu menter gymdeithasol

Mewn busnes cymdeithasol, mae pobl yno a fydd yn edrych ar ddatblygu’r busnes o safbwyntiau ychydig yn wahanol, ac mae’n syniad da paratoi’r gwahanol adnoddau hyn i greu strategaeth ymgysylltu dda. 

Wedi i chi bennu sut i ymgysylltu â’r rhanddeiliaid ac aelodau i’ch busnes cymdeithasol yn effeithiol, dechreuwch feddwl ynglŷn â darparu rheolaeth a goruchwyliaeth.