Cynlluniau achredu a gwobrwyo amgylchedd

Mae llawer o fusnesau wedi sefydlu arferion da yn barod er mwyn gwella cynaliadwyedd, felly beth am ddefnyddio hyn fel arf marchnata yn ogystal â’i ddefnyddio i leihau gorbenion? Mae rhai gwesteion posibl sy’n edrych ar y ffyrdd amlwg o ddewis lle i aros, fel ansawdd a chost, a hefyd yn edrych sut mae lle’n cael ei weithredu o safbwynt cynaliadwyedd. 

Manteisio ar y farchnad 'werdd' a chadw pethau’n real

Os ydych eisoes yn gweithio’n galed i fod yn fwy cynaliadwy, mae’n bryd darganfod sut i wneud eich cwsmeriaid yn ymwybodol o hyn ac i’w fwynhau. Mae cadw’r peth yn real yn golygu cydnabod bod gwreiddioldeb yn gwneud gwyliau eich cwsmeriaid yn fwy o hwyl ac yn gwneud eu tripiau busnes yn fwy pleserus.

Ymuno â chynllun achrediad amgylcheddol

Mae llawer o fusnesau sy’n gweithredu’n gynaliadwy gan gynnwys y rhai hynny sydd â system reolaeth amgylcheddol ffurfiol, wedi bod yn marchnata eu llwyddiant ers tro. Yn aml iawn, mae’r logos cysylltiedig wedi eu hargraffu ar ddeunydd marchnata busnesau sydd wedi bodloni gofynion y Cynllun Busnes Twristiaeth Werdd (saesneg yn unig), y Ddraig Werdd (saesneg yn unig), Allwedd Gwyrdd (saesneg yn unig) neu safonau eraill, neu ar ddeunydd marchnata rhywun arall, er mwyn dangos i ymwelwyr eu bod yn cymryd cynaliadwyedd o ddifrif ac yn gwneud mwy na rhoi arlliw o ‘Wyrdd’ i’w busnes.

Yn aml iawn, mae busnesau sy’n ceisio gweithredu mewn ffordd gynaliadwy yn ddigon abl i fanteisio ar y potensial a allai ddod yn sgîl hyn er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr.