Deddfwriaeth amgylcheddol

Canllaw cyflym i ddeddfwriaeth amgylcheddol ar gyfer busnesau twristiaeth

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio deddfwriaethau amgylcheddol bwysig; mae’n bwysig fod busnesau twristiaeth yn ymwybodol ohonynt ac yn cydymffurfio â hwy.

Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991
Mae pob cwmni’n cynhyrchu gwastraff ac mae’n rhaid iddyn nhw gymryd camau cyfrifol i gadw gwastraff yn ddiogel. Hefyd, mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod cludwr gwastraff cofrestredig yn ei gasglu ac yn ei gludo i safle awdurdodedig. Hefyd, mae’n rhaid paratoi Nodyn Trosglwyddo Gwastraff ar gyfer pob llwyth gyda manylion y cwmni, manylion y gwastraff a’i ansawdd a’r dyddiad(au) cludo arno.

Yn ddiweddar, cafodd cwmni o’r Canolbarth ei gosbi am fethu â bodloni’r rheoliadau. Er eu bod yn cael gwared ar eu gwastraff yn y modd cywir, nid oeddynt yn bodloni’u dyletswydd i sicrhau bod y gwastraff yn cael ei drin yn ofalus, hynny yw eu “Dyletswydd Gofal”.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005
Dylech bob amser rannu gwastraff peryglus. Fel rydym wedi sôn uchod, mae’n rhaid i gwmni fodloni ei “Ddyletswydd Gofal”. Wedi dweud hyn, mae hyn yn cael ei gynnwys yn y Nodyn Cludo. Hefyd, os yw cwmni’n cynhyrchu dros 500kg o Wastraff Peryglus bob blwyddyn, mae’n rhaid iddo gofrestru gydag Asiantaeth yr Amgylchedd a Chynhyrchydd Gwastraff Peryglus a chadw cofnodion o’r gwastraff a gludir a’u cyflwyno i’r Asiantaeth bob chwarter.

Rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff 2006
Ni ddylid cael gwared ar wastraff electronig yr un pryd â gwastraff cyffredinol a dim ond contractwyr sydd wedi’u cymeradwyo i gludo gwastraff o’r math hwn y dylech eu defnyddio.

Deddf Adnoddau Dŵr 1991
Mae’r Ddeddf yn dweud ei bod hi’n drosedd peri neu ganiatáu’n fwriadol unrhyw ddeunydd gwenwynig, niweidiol neu lygredig i fynd i ddyfroedd a reolir (llynnoedd, afonydd a’r môr). O dan y ddeddf hon, mae’n bosibl cael caniatâd gan Asiantaeth yr Amgylchedd i ryddhau deunyddiau i afonydd, carthffosiaeth wedi’i drin er enghraifft.

Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993
Gellir diffinio niwsans statudol fel un o’r canlynol: unrhyw eiddo sydd yn y fath gyflwr ei fod yn andwyol i iechyd neu’n achosi niwsans. Gall y math o niwsans gynnwys mwg, llwch, stem, arogleuon, crynodiadau, dyddodion, sw^ n neu unrhyw fater arall sy’n cael ei ystyried yn niwsans. 

Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH) 2002
O dan y rheoliadau hyn, mae system reoleiddio integredig gynhwysfawr ar waith sy’n gofalu am iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Mae cyflogwyr yn gorfod gofalu am weithwyr sy’n dod i gysylltiad â sylweddau peryglus a diogelu nid yn unig eu staff ond pobl eraill sy’n dod i gysylltiad â sylweddau o’r math hwn am fod eu gwaith yn gofyn am hynny.

Rheoliadau Adeiladu 2000
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu safonau gofynnol ar gyfer arbed ynni mewn adeiladau newydd ac maent wedi bod mewn grym ers 1 Ebrill 2002. Maent yn cynnwys goleuo, aerdymheru, oeri, inswleiddio a systemau dw^ r poeth. Hefyd, maent yn ymwneud ag adeiladu estyniadau a gwaith adnewyddu mewn eiddo domestig a masnachol yng Nghymru a Lloegr.

Y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
Mae’r Ddeddf hon yn ymdrin â mynediad cyhoeddus (ar droed) i dir dynodedig; hefyd, mae’n diwygio rhywfaint o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â ‘hawliau tramwy’. Hefyd, mae’n atgyfnerthu’r elfennau gorfodi sy’n gysylltiedig â deddfwriaeth bywyd gwyllt.

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Mae hon yn ddeddfwriaeth bwysig iawn sydd â’i nod o ddiogelu anifeiliaid gwyllt, planhigion, adar gwyllt, eu hwyau a’u nythod.