Digwyddiadau a gwyliau cynaliadwy

Trwy ystyried cynaliadwyedd eich digwyddiad yn gynnar yn y broses gynllunio, fe allwch arbed arian a diogelu adnoddau naturiol.  Mae’n cynllunio buan yn hanfodol er mwyn i chi fedru nodi pa agweddau o'r digwyddiad all fod yn gynaliadwy.  

Defnyddiwch ein rhestr wirio isod i’ch helpu yn eich cyfarfodydd cynllunio: 

  1. Dewis lleoliad (a oes modd ei gyrraedd ar gludiant cyhoeddus)?
  2. Defnyddi ynni (y goleuo a'r awyru’r yn yr adeilad).
  3. Pecynnau gwybodaeth a rhoddion (defnyddiwch fagiau a deunydd pacio bioddiraddiadwy, a oes modd ail defnyddio’r deunydd mewn digwyddiad arall)?
  4. Arlwyo (defnyddio cynnyrch ffres, tymhorol a masnach deg).
  5. Rheoli gwastraff (gwaredu gwastraff, darparu biniau ailgylchu ac ati).
  6. Cyfathrebu (marchnata a chofrestru’n electronig).
  7. Mynediad (mynedfeydd gwastad neu rampiau, acwsteg addas defnyddwyr cymhorthion clywed a systemau dolen sain yn y darlithfeydd).

 
Mae’n bwysig cynnal cysylltiadau da â phob parti, gan gynnwys y rheini sy’n gwneud y gwaith (trefnwyr y lleoliad, cyflenwyr, noddwyr ac ati) a’r rheini y bydd y digwyddiad yn effeithio arnyn nhw (cymunedau lleol) i ystyried yr effeithiau a’r problemau pwysicaf. 

Am fwy o gyngor ymarferol ar gynnal digwyddiadau cynaliadwy, ewch i WRAP Cymru (saesneg yn unig) neu edrychwch ar eu PDF o gynghorion ymarferol (saesneg yn unig).

Yn 2006, dechreuodd Gŵyl y Gelli brosiect Greenprint, acers hynny mae’r trefnwyr wedi bod yn cynnal rhaglen o reoli a lleihau effeithiau amgylcheddol trwy ‘Hay on Earth’. 

Gwefan Rheoli Cynaliadwy Gŵyl y Gelli (saesneg yn unig)