Gweithio gyda'ch cymuned

Parchwch anghenion y gymuned gyfagos a'r diwylliant, y dreftadaeth a'r traddodiadau lleol bob amser. Ceisiwch nodi ffyrdd y gallai'r gymuned leol elwa ar bresenoldeb eich busnes. 

Er enghraifft

  • Cynhaliwch ddyddiau agored ar gyfer pobl leol. Gallant ddod i adnabod eich busnes a gallwch chi ddod i'w hadnabod nhw. Pam na ellid cynnig tâl mynediad is i'r rhai sy'n byw yn lleol?
  • Cefnogwch fusnesau eraill sy'n gysylltiedig â thwristiaeth mewn partneriaeth â'r gymuned. Er enghraifft, bydd hyrwyddo cynhyrchion crefft sy'n defnyddio llafur a deunyddiau lleol yn arwain at arian yn cael ei ail-gylchredeg yn yr ardal leol. Mae hyn yn bwysig mewn ardaloedd gwledig lle gallai diweithdra fod yn broblem. Mae hyn hefyd yn rhoi hwb i'r ymwelydd ac yn gwneud iddo deimlo'n hapus, gan fod ganddo rywbeth i'w gofio am y gwyliau sy'n perthyn yn arbennig i'r ardal. Maent hefyd yn gwybod eu bod wedi cefnogi'r economi leol.
  • Dylech bob amser ymdrechu i ddefnyddio gwasanaethau a chynhyrchion a ddarperir yn lleol lle bo hynny'n bosibl.
  • Cyflogwch a hyfforddwch weithwyr lleol lle bo hynny'n bosibl. Mae hyn yn dod â manteision amlwg i'r gymuned a hefyd yn dod â gwerth ychwanegol i'r ymwelydd drwy ddarparu gwybodaeth a chyngor lleol a fydd yn ychwanegu at eu harhosiad.
  • Beth am gysylltu â grwpiau lleol, megis cymdeithasau hanes lleol neu fywyd gwyllt, er mwyn dod i ddeall mwy am yr ardal leol. Gallai'r wybodaeth hon gael ei defnyddio ar gyfer teithiau cerdded lleol ar thema arbennig. Gallai hyn gynyddu ymgysylltiad yr ymwelwyr.
  • Yn union fel y gallai eich busnes chi fod o fudd i'r gymuned, mae'r gymuned yn ei thro yn dod â budd i chi. Mae rheoli'r dirwedd, cynlluniau megis 'Cymru yn ei Blodau', mesurau i gefnogi'r iaith a'r diwylliant, i gyd yn ychwanegu'r 'Naws am Le' holl bwysig hwnnw sy'n atyniad mawr i ymwelwyr. Felly, beth am gynnig eich cefnogaeth i brosiectau cymunedol lleol gydag arian, amser ac adnoddau.
  • Dewch â mentrau lleol i sylw eich ymwelwyr oherwydd efallai y byddent yn dymuno rhoi eu cefnogaeth, a allai arwain at ail-ymweliadau.