Polisi Amgylcheddol

Mae llunio polisi amgylcheddol yn gam allweddol yn y broses o ddod yn fusnes cynaliadwy. Mae bob amser yn well i sicrhau bod polisi amgylcheddol yn cael ei deilwra at ddibenion unigol busnesau er mwyn trosglwyddo’r neges a fwriedir gennych yn hytrach na’i fod yn ddarn o bapur gyda geiriau arno.

Os ydych yn ysgrifennu polisi â’ch bod eisiau i’r polisi hwnnw gydymffurfio â Chynllun Achredu Amgylcheddol neu System Rheoli Amgylcheddol (EMS), yna bydd canllawiau yn mynd law yn llaw â’r cynllun hwnnw i nodi pa eiriad y mae’n rhaid ichi ei gynnwys. Yn gyffredinol, dim ond un tudalen A4 yw hyd polisïau amgylcheddol. Er ei fod yn ddatganiad cyhoeddus o ymrwymiadau’ch busnes, nid yw’n ddogfen gyfreithiol.  
 
Unwaith y byddwch wedi ysgrifennu’ch polisi amgylcheddol, dylech ei rannu gyda’ch staff i gyd a’r cydweithwyr eraill fydd yn cyfrannu at ei roi ar waith. Does dim pwrpas i bolisïau os nad ydynt yn cael eu gweithredu ac unwaith i’r polisi gael ei lunio, dylech gydweithio â’ch staff i lunio cynllun gweithredu er mwyn rhoi’r polisi ar waith ac i sefydlu gweithdrefnau ar gyfer ei adolygu’n flynyddol. Mae hefyd yn arfer dda i sicrhau bod copi ohono ar gael i bawb, er enghraifft gellir ei roi ar y wefan, ym mhecynnau’r ymwelwyr neu yn y dderbynfa.  

 

Enghraifft o bolisi amgylcheddol syml ond effeithiol. 

 

Polisi Amgylcheddol Parc Carafannau ABC
Mae Parc Carafannau ABC wedi’i leoli ar arfordir Cymru. Mae’n darparu ar gyfer carafannau statig a charafannau teithiol.  

Mae Parc Carafannau ABC yn cydnabod pwysigrwydd yr amgylchedd i’n busnes a’n rhwymedigaeth i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol. Rydym yn cael effaith gymharol isel ar yr amgylchedd. Y prif effeithiau yw’r defnydd o ynni a dŵr, creu gwastraff a dŵr gwastraff.

Felly, mae Parc Carafannau ABC yn ymrwymedig i atal llygredd a bydd yn gwneud y canlynol:

 - lleihau gwastraff a faint o ynni a gaiff ei ddefnyddio i’r eithaf
 - ailgylchu deunyddiau gwastraff
 - codi ymwybyddiaeth ein cwsmeriaid o’n hamgylchedd lleol
 - annog ein cwsmeriaid i ddefnyddio eu ceir yn llai aml a cherdded i’r traethau lleol
 - rheoli ein gwrychoedd naturiol a thirlunio’r parc i leihau’r effaith weledol ac annog bywyd gwyllt.
 
Caiff y polisi yma ei gynnal a’i adolygu bob blwyddyn a chaiff holl safbwyntiau ein cwsmeriaid a’n staff eu croesawu.


Dyddiad cyhoeddi’r polisi 01/09/13