Prynu nwyddau'n lleol a defnyddio trafnidiaeth gynaliadwy

Mae gwneud eich busnes yn fwy gwyrdd yn golygu mwy na’r hyn rydych yn ei wneud. Mae’n ymwneud hefyd a chynaladwyedd y cynnyrch a’r gwasanaethau rydych yn eu cynhyrchu neu’n eu caffael.

Wrth wneud penderfyniadau wrth gaffael neu brynu gan gyflenwyr sy’n dangos agwedd gyfrifol tuag at yr amgylchedd (caffael cynaliadwy) mae angen i chi roi ystyriaeth i’r ffactorau canlynol:

  • amgylcheddol   
  • cymdeithasol
  • economaidd

Dyma’r pedwar pwynt allweddol i’w cofio:

1. Defnyddiwch gynnyrch ecogyfeillgar
Nid oes gwerth mewn lleihau eich effaith amgylcheddol os yw’r cynnyrch rydych yn eu defnyddio’n niweidio’r amgylchedd.
Ystyriwch:                                                

  • allan o beth mae’r cynnyrch wedi ei wneud?
  • o ble daeth y cynnyrch?
  • pwy wnaeth y cynnyrch?

2. Cyrchu, prynu a hyrwyddo bwyd lleol

  • bydd gwesteion wrth eu bodd a byddwch chi’n rhoi budd i fusnesau lleol
  • gellir cael mwy o wybodaeth ynglŷn â hyn ar y dudalen ‘Cyrchu a hyrwyddo bwyd lleol’ ar y chwith

3. Defnyddio crefftwyr lleol
Mae’n cefnogi’r economi leol ac yn aml, mae’n fwy cyfleus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

 

4. Annog eich gwesteion i deithio’n gynaliadwy

  • mae’n lleihau nifer y ceir ar y ffyrdd
  • mae’n cefnogi gwasanaethau bws/trenau lleol
  • mae’n darparu profiad unigryw i’ch gwesteion