Sut i leihau a rheoli eich gwastraff
Gallwch leihau eich costau busnes ac effaith amgylcheddol eich gweithgareddau drwy leihau faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu. Felly, mae llai o angen gwaredu gwastraff. Mae gwir gost gwastraff i'r cwmni ddeg gwaith yn fwy na'r gost i'w waredu.
Mae lleihau eich gwastraff yn arbed arian i chi o ran:
- gwaredu gwastraff
- pris prynu cychwynnol nwyddau
- costau sy'n gysylltiedig ag amser staff
- storio
- trafnidiaeth
Gall y ffordd rydych yn rheoli eich adnoddau (er enghraifft, prynu bwyd, coginio, deunydd ysgrifennu ac ati) arwain at gynhyrchu gwastraff. Drwy gadw llygad cyson ar gynnwys eich biniau, gallwch nodi'r potensial i osgoi gwastraff o'r fath yn y lle cyntaf. Er enghraifft:
- a oes gormod o fwyd, deunyddiau neu gynhyrchion?
- a ydynt wedi dyddio?
- a oes angen cymaint o ddeunydd pacio?
- a allech chi swmp-brynu er mwyn lleihau deunydd pacio a chostau?
Mae pum cam allweddol ar gyfer lleihau'r gwastraff y mae eich busnes yn ei gynhyrchu. Dilynwch y camau syml isod a chliciwch ar y dolenni ar y chwith am fwy o fanylion:
- monitro eich gwastraff
- lleihau eich gwastraff
- sut i ddewis contractwr gwasanaeth ailgylchu
- delio â sylweddau peryglus mewn modd diogel a chyfreithlon
- atal llygredd