Lion Laboratories yn y Barri yw'r cwmni y tu ôl i anadlennydd electronig cyntaf y byd, a ddyfeisiwyd gan sylfaenydd y cwmni, y gwyddonydd Cymreig Dr Tom Parry Jones, ym 1967.

Heddiw, mae Lion Laboratories yn arwain y byd wrth gyflenwi anadlenyddion electronig sy'n cael eu cynhyrchu â llaw ar safle pencadlys y cwmni yng Nghymru. Mae heddluoedd ym mhedwar ban y byd yn defnyddio teclynnau'r cwmni, gan gynnwys y DU, Denmarc, Malaysia, Gwlad Thai, Oman, y Swistir, Namibia ac Awstralia.

Diddordeb rhyngwladol

Gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am 70% o fasnach Lion Laboratories ar hyn o bryd, gyda'r cwmni'n allforio i dros saithdeg o wledydd ar draws Ewrop, Asia, America, Affrica ac Awstralia. 

Mae'r cwmni bellach yn gweithio i ddiogelu contractau tramor newydd yn rhan o'i strategaeth i dyfu'r busnes, sy'n cynnwys cynyddu ei werthiannau allforio i'r lefelau  a welwyd cyn y pandemig, sef trosiant o 85%.

Yn fwy diweddar, mae Lion Laboratories wedi diogelu contract gwerth dros £1m i gyflenwi cannoedd o anadlenyddion isgoch cludadwy ar gyfer Llywodraeth y Ffindir at ddefnydd heddlu, gwarchodlu ffiniau a gwasanaethau carchar y Ffindir.

Dros y 12 mis diwethaf, mae'r cwmni wedi penodi dosbarthwyr newydd yn Ffrainc, Sbaen ac Awstria yn rhan o'i uchelgais i ehangu ei bresenoldeb yn Ewrop.

Canolbwyntio ar Ffrainc 

Mae Ffrainc yn farchnad darged allweddol i'r cwmni sydd wedi ei sefydlu ei hun fel cyflenwr blaenllaw dyfeisiau atal tanio cerbydau ar sail alcohol ar gyfer Rhaglen Troseddwyr PJL y wlad - cynllun Llywodraeth Ffrainc ar gyfer troseddwyr yfed a gyrru. 

Yn rhan o'r rhaglen, gall llysoedd Ffrainc orfodi gosod anadlennydd arbennig ar system cerbyd i atal unigolion rhag gyrru oni bai eu bod yn darparu sampl priodol o anadl - fel dewis arall yn hytrach nag wahardd rhywun rhag gyrru. 

Chwyldroi diogelwch ffyrdd 

Ers sefydlu'r cwmni, mae Lion Laboratories wedi helpu i chwyldroi diogelwch y ffyrdd ac wedi tyfu i fod yn arbenigydd byd-eang ym maes dadansoddi alcohol mewn anadl diolch i'w amrywiaeth o offer sy'n helpu i erlyn miliynau o bobl ar draws y byd am yfed a gyrru.  

Un o'r pethau allweddol sydd wedi gyrru llwyddiant y cwmni a'r twf yn ei allforion dros y deng mlynedd diwethaf yw cymorth Llywodraeth Cymru, sydd wedi darparu ymchwil cynhwysfawr i'r farchnad mewn tiriogaethau newydd, ac wedi helpu'r cwmni i fynychu teithiau masnach.

Dywedodd Martin Slade, Pennaeth Gwerthu Lion Laboratories: "Mae allforio'n bwysig dros ben i ni, yn nhermau ein diogelwch a'n twf. Mae'n sicrhau nad ydym ni'n llwyr ddibynnol ar un farchnad, ac mae delio ag amrywiaeth eang o wledydd yn ehangu ein cyfleoedd busnes ac yn ein hamddiffyn rhag dirwasgiadau rhanbarthol. 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gefnogol dros ben wrth ein helpu ni i feithrin cysylltiadau dramor, sydd wedi arwain yn uniongyrchol ar fusnes newydd. Maent wedi ein helpu ni i fynychu sioeau masnach er mwyn rhwydweithio a chyfathrebu â darpar-gleientiaid a dosbarthwyr, wedi ein cynorthwyo ni i estyn allan at lysgenadaethau Prydain dramor, ac wedi ein cyflwyno ni i gysylltiadau mewn nifer o ranbarthau, gan gynnwys yr Almaen, Awstria a Sbaen, sydd wedi helpu i sefydlu llwybrau newydd i'r farchnad.   

"Yn ystod ei ymweliad â Chymru yn Rhagfyr 2021, daeth Llysgennad Hwngari i ymweld â Lion Laboratories yn ein cyfleuster yn y Barri. Cafodd yr ymweliad ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, ac mae hi wedi agor y drws ar drafodaeth ar gyfer busnes posibl yno hefyd.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen