Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion cam nesaf y Gronfa Cadernid Economaidd.

Gobeithio y bydd y gwiriwr cymhwystra ar gyfer ceisiadau newydd ar agor erbyn canol mis Mehefin 2020, gan roi amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio agor y gronfa ar gyfer ceisiadau llawn yn hwyrach yn y mis.

Bydd hyn yn agor y ffordd i’r £100 miliwn sydd ar ôl o’r £300 miliwn sydd eisoes wedi’i gymeradwyo a’i ddyrannu i ficrofusnesau, mentrau bach a chanolig a busnesau mawr.

O ran cymhwystra, bydd Cam 2 y Gronfa yn gweithredu'r un ffordd â Cham 1 ond gyda diweddariad i’r micro-gynllun, a fydd yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydyn nhw wedi cofrestru ar gyfer TAW i gael mynediad at y Gronfa.

Bydd rhagor o fanylion am y gronfa ar wefan Busnes Cymru maes o law. 

Share this page

Print this page