Pan ddechreuodd Mike Parfitt ei fusnes yn 2003, nid oedd yn dychmygu y byddai ganddo un diwrnod gwmni sy’n cyflogi 13 o bobl gydag uchelgais am dwf ehangach. 

Ond mae’r entrepreneur wedi datblygu Team Metalogic o gwmni yr oedd yn ei redeg ar ei ben ei hun ar ei liniadur yn fenter gyda chynlluniau twf o ddifrif. 

Mae Mike yn argyhoeddedig bod llwyddiant diweddar y cwmni oherwydd y cymorth a gafwyd gan y cwmni o Gaerffili gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

Yma, mae Mike yn dweud gwerth y cymorth hwnnw, sut yr aeth o fod yn unig fasnachwr i lwyddo gyda’i fusnes ac mae yn cynnig cynghorion i eraill sydd am ddilyn llwybr tebyg iddo. 

 

Dywedwch hanes Team Metalogic.
Dechreuais y cwmni yn 2003, ac am bedair mlynedd dim ond fi a’m gliniadur oedd, yn cynnig gwasanaethau cymorth TG i fusnesau bach a micro-fusnesau.  

Dwi ddim yn credu y gallwn fod wedi rhagweld y byddai gennyf, 17 mlynedd yn ddiweddarach, 13 o weithwyr, ac yn ehangu fy musnes i feysydd newydd, ond dyna’n union sydd wedi digwydd.  Mae wedi bod yn anhygoel.  

Cyflogais y gweithiwr cyntaf yn 2007, a dyna pryd y dechreuodd bethau.  Efallai, yn groes i’r disgwyl, i argyfwng ariannol 2008 roi cyfle enfawr inni am fusnes newydd.   

Gwnaeth yr argyfwng credyd i gwmnïau edrych ar sut y gallent arbed ar gostau.  Roedd nifer o BBaChau yn edrych ar sut y gallent roi gwasanaethau i gontractau allanol.  Yn y cyfamser, roedd cwmnïau mwy yn deall gwerth gweithio gyda darparwyr gwasanaethau.   Gall cwmni allanol gydag arbenigedd gwirioneddol ddarparu cymorth i dîm TG mewnol heb y costau, yr ymrwymiadau a’r drafferth o gyflogi staff. 

Roedd yn bosibl inni gamu i mewn a manteisio ar y tuedd hwn. 

Gwelwyd dwf cyflym wedi hyn, ac yn 2018 roeddwn wedi ehangu yr hyn oedd yn cael ei gynnig gan y cwmni, fel y gallem gynnig atebion telathrebu, a phecyn cymorth llawn i gwsmeriaid. 

 

 

Beth ydych fwyaf balch ohono hyd yn hyn?
Rydym wedi ennill sawl gwobr – o fewn y byd busnes a diwydiant, a chydnabyddiaeth am ein gwasanaeth gwych i gwsmeriaid hefyd.  Ni hefyd oedd yr unig fusnes o Gymru i gael eu henwi ar restr y 50 uchaf o ddarparwyr gwasanaethau TG wedi’u rheoli yn y DU. 

Mae gwobrau yn wych, ac wrth gwrs mae’n beth da i ennill cydnabyddiaeth gan eich cyfoedion.  Ond mae yna rhywbeth yr wyf yn fwy balch ohono. 

Ffynhonnell y balchder hwn, a rhywbeth sy’n parhau i ysgogi fy uchelgais, yw’r ffaith imi ddechreu gydag un gliniadur ac un ddesg.  Rwyf bellach yn cyflogi 13 o bobl, ac am ddatblygu’r cwmni ymhellach.  Yn ganolog i’r llwyddiant hwnnw, mae nodweddion gwasanaeth personol i gwsmeriaid, a thîm sy’n ymdrechu’n barhaus at arfer gorau. 

 

Pe byddech yn dechrau eto, beth fyddech yn ei wneud yn wahanol?   
Mae dysgu trwy brofiad yn un o elfennau pwysicaf y daith entrepreneuraidd.  Ond pe byddem i ddechrau eto, dwi’n cedu y byddem yn cymryd mwy o risgiau ac yn fwy parod i roi cynnig ar bethau newydd.  Pe bawn wedi cymryd mwy o risgiau yn gynharach yn y busnes, dwi’n credu y byddem wedi mwynhau yr un ehangu cyflym, ond ychydig flynyddoedd yn gynt. 

Rydych angen y cyngor iawn i allu rheoli’r awydd hwn i osgoi risgiau, fodd bynnag.  Dwi’n credu bod hynny’n rhywbeth allai fod yn anodd i ddod o hyd iddo pan fyddwch yn dechrau ar eich pen eich hun.  Nid ydych o angenrheidrwydd yn gwybod pa gymorth sydd yno ar eich cyfer. 

Ond gall trafod eich cynlluniau gyda rhywun sydd wedi bod yno ac wedi mynd drwy’r profiad roi’r sicrwydd ichi bod angen ichi gymryd risgiau o bosibl – a manteisio ar y canlyniadau wedi hynny. 
 

 

 

Sut mae y cymorth o Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu eich busnes?
Bu inni ymuno â Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn 2018, cyn inni ehangu i delegyfathrebu.  Roedd yn drobwynt pwysig inni. 

Cawsom gyngor mentoriaid, cynghorwyr a bu inni elwa o weithdai hyfforddi ar gyfer ein staff.  Rhoddodd Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru y canllawiau inni gynllunio ar gyfer twf a chyflwyniad i rwydweithiau newydd o bartneriaid a chwsmeriaid newydd.   

Wedi gweithio gyda Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, datblygodd ein staff o 6 i 13 gan roi hwb o 72% i’n trosiant.  Mae’r ffigurau twf gwych hyn o ganlyniad i’r cymorth a gawsom gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. 

 

Pa gymorth a chanllawiau fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n dechrau?

● Peidiwch ag ofni pethau nad ydych yn gwybod dim amdanynt. 

● Dewch o hyd i rhywun sydd â mwy o brofiad a dysgu ganddynt cymaint â phosibl. 

● Derbyniwch y syniad na fyddwch fyth wedi ‘gorffen’, ac y bydd rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser. 

● Peidiwch bod ofn gofyn am gymorth.

 

 

Dysgu mwy am Team Metalogic.
 

Dysgwch ragor am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru (AGP).

Share this page

Print this page