Hysbysiad Preifatrwydd Helo Blod
Cafodd yr hysbysiad hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 23 Chwefror 2021.
Cymerwch eiliad i ymgyfarwyddo â'n harferion preifatrwydd a nodwch pam yr ydym yn casglu ac yn prosesu'r data a gesglir.
- Diben prosesu
Mae dau brif nod i Helo Blod:
- Darparu cyfieithiadau byr rhwng y Gymraeg a’r Saesneg a gwasanaethau gwirio testun ar gyfer busnesau, elusennau ac unigolion.
- Darparu gwasanaeth cyfeirio/gwybodaeth ar faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg er mwyn hwyluso'r defnydd o’r Gymraeg.
- Pa ddata ydym yn ei gasglu?
Llywodraeth Cymru fydd y Rheolwr Data ar gyfer unrhyw ddata personol a gesglir. Mae angen eich data personol arnom, gan gynnwys manylion cyswllt, i greu cyfrif ar ein system TG. Mae'r wybodaeth a'r cyfrif hwn yn ein galluogi i gyfathrebu â chi a darparu'r cymorth mwyaf priodol ar gyfer eich ymholiad.
Mae angen prosesu data personol at y dibenion a amlinellir uchod, sy'n cael eu cwblhau yn unol â'n hawdurdod swyddogol i hybu a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg - fel y nodir yn nogfen Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
Ceisiadau cyfieithu
Caiff dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein gwasanaeth cyfieithu eu cofnodi ar eich cyfrif, a ddelir ar ein system TG. Mae’r dogfennau hyn yn cael eu hanfon y tu allan i Lywodraeth Cymru (heb eu newid) i’n contractwyr cyfieithu allanol drwy Memsource. Mae Memsource yn system rheoli cyfieithu sy’n helpu ein cyfieithwyr cymwysedig. Caiff y testun/brawddegau/geiriau yn y dogfennau eu storio gan Memsource mewn canolfannau data yn yr Almaen ac Iwerddon. Pan fydd y cyfieithiad wedi’i gwblhau, caiff ei ddychwelyd i’n system TG.
Ceisiadau gwirio testun
Caiff dogfennau a gyflwynir ar gyfer ein gwasanaeth gwirio testun eu cofnodi ar eich cyfrif, a ddelir ar ein system TG. Bydd y dogfennau’n cael eu cyrchu gan ein contractwyr cyfieithu allanol sydd â mynediad cyfyngedig i’n system TG. Bydd y cyfieithwyr yn cael mynediad llawn i’r ddogfen a gyflwynwyd i’w gwirio. Fodd bynnag, ni fyddant yn cael unrhyw fynediad i’r data personol sy’n cael ei storio yn eich cyfrif ar ein system TG.
Ni fyddwn yn gallu darparu unrhyw wasanaeth i sefydliadau y gallai eu gweithgareddau gael eu hystyried yn rhesymol i ddwyn anfri ar Lywodraeth Cymru.
Sicrhewch nad ydych yn cynnwys unrhyw wybodaeth fel gwybodaeth sy’n sensitif yn fasnachol, data personol neu ddata personol categori arbennig gan na fydd y dogfennau’n cael eu newid cyn cael eu hanfon i’n cyfieithwyr allanol. Ceir rhestr lawn o’n telerau ac amodau ar wefan Helo Blod. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Helo Blod ar 03000 25 88 88. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
- Pwy fydd yn cael gweld eich data?
- Dim ond timau Llywodraeth Cymru sy'n gallu cael mynediad at y data personol sydd wedi’i nodi yn eich cyfrif.
- Bydd yr wybodaeth a gesglir ar gael i dimau gwasanaethau cymorth Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr technegol y system sy'n cefnogi'r system TG. Ni fydd gweinyddwyr technegol y system yn defnyddio eich manylion mewn unrhyw ffordd.
- Caiff unrhyw ddata, testun, brawddegau a geiriau sydd wedi’u cynnwys yn y ceisiadau cyfieithu a gwirio testun rydych yn eu cyflwyno eu storio ar Memsource (y system rheoli cyfieithu) a bydd ein contractwyr allanol yn gallu eu gweld.
- Am ba hyd y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw eich cyfieithiad?
Rydym yn defnyddio technoleg cyfieithu i gynorthwyo ein contractwyr cyfieithu dynol, cymwysedig. Mae'n bosib y caiff cynnwys eich cyfieithiad ei gadw ar Memsource (neu unrhyw gof cyfieithu y mae ein cyfieithwyr yn eu defnyddio yn y dyfodol), Google Translate, Microsoft Translator a TermCymru am gyfnod amhenodol (*gweler y cyfeiriadau yn y tabl ar ddiwedd y ddogfen hon). Bydd hyn yn gwella cyfieithiadau yn y dyfodol, yn cyfrannu at gynyddu faint o Gymraeg sydd ar gael yn y dirwedd ieithyddol, gan weithio felly tuag at gyflawni nodau Cymraeg 2050: Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru.
- Am ba hyd y cedwir eich manylion
Bydd manylion eich cyfrif yn cael eu cadw'n ddiogel ar ein systemau am dair blynedd o'r tro diwethaf y byddwch yn defnyddio eich cyfrif. Mae'r wybodaeth a gasglwn yn ofynnol er mwyn mesur llwyddiant y gwasanaeth, at ddibenion adrodd ac fel rhan o'n hadolygiadau parhaus o hyfforddiant ac ansawdd.
Gellir cofnodi galwadau i'n rhif ffôn 03000 25 88 88 at ddibenion hyfforddi a monitro; bydd recordiadau'n cael eu cadw am 999 diwrnod. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
- Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael mynediad at y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddal amdanoch chi;
- ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
- (mewn amgylchiadau penodol) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu;
- (mewn rhai amgylchiadau) i'ch data gael ei 'ddileu';
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Cyswllt Cwsmeriaid
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Sir Gaer
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Am gymorth gydag unrhyw un o'r hawliau uchod, cysylltwch â ni ar 03000 25 88 88 neu defnyddiwch ein ffurflen Gysylltu. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth a'ch Manylion
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn caniatáu i'r cyhoedd ofyn am gael gweld gwybodaeth sy'n cael ei chadw gan gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd y wybodaeth y byddwch yn ei darparu inni yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod arall o'r cyhoedd. Byddem yn ymgynghori â chi i ofyn am eich barn cyn ymateb i gais o'r fath.
- Newidiadau i'r polisi hwn
Gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg. Bydd newidiadau'n cael eu postio yma ac maent yn weithredol ar unwaith. Pan fydd newidiadau'n digwydd i'r polisi hwn byddwn yn cysylltu â chi ar y cyfeiriad e-bost rydym wedi'i gofnodi ar eich cyfrif er mwyn eich galluogi i adolygu'r fersiwn newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth
Cyfeiriad Post:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
Cyfeiriad E-bost DataProtectionOfficer@llyw.cymru
System |
Disgrifiad |
---|---|
Memsource |
System rheoli cyfieithu yn seiliedig ar y cwmwl sy'n cynnwys cof cyfieithu, rheoli terminoleg, sicrwydd ansawdd a chyfieithu peirianyddol integredig. |
Google Translate |
Gwasanaeth cyfieithu peirianyddol a ddatblygwyd gan Google. |
Microsoft Translate |
Gwasanaeth cyfieithu peirianyddol a ddarperir gan Microsoft. |
TermCymru |
Cronfa ddata ar-lein o dermau wedi'u datblygu gan gyfieithwyr Llywodraeth Cymru yn eu gwaith bob dydd sydd ar gael ar-lein i'w defnyddio gan y cyhoedd. |