Sbwriel morol
Mae sbwriel morol yn fater sy’n peri pryder i bawb, ac mae’n effeithio ar holl gefnforoedd y byd. Pob blwyddyn mae miliynau o dunelli o sbwriel yn cyrraedd y cefnforoedd. Gall y sbwriel yma achosi problemau amgylcheddol, economaidd, iechyd ac esthetig.
Yng Nghymru mae’r broblem yn dod yn fwy amlwg o fewn yr amgylchedd morol. Gallai hyn gael effaith andwyol ar fioamrywiaeth forol a thwristiaeth arfordirol, sy’n faes y mae ein heconomi’n ddibynnol arno.
Bernir bod 80% o sbwriel morol:
- Yn tarddu o ffynonellau ar y tir
- Yn sbwriel plastig yn bennaf
Mae’n allweddol ein bod yn dod ynghyd i fynd i’r afael â’r her fyd eang hon.
Mae Partneriaeth Moroedd Glân Cymru yn chwarae rhan amlwg yn y frwydr yn erbyn sbwriel morol.
Deall y defnydd o offer pysgota masnachol ac anghenion gwaredu yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'n diwydiant pysgota a rhanddeiliaid allweddol. Rydym yn datblygu atebion polisi ar gyfer offer pysgota diwedd oes ac offer anghyfannedd yng Nghymru. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ddefnyddio offer pysgota yng Nghymru ac mae'n sail i gam gweithredu allweddol o fewn y Cynllun Gweithredu Sbwriel Morol.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at:
-
y gwahanol lefelau o seilwaith
-
dulliau o waredu offer yn rhai o'n porthladdoedd
-
faint o offer diwedd oes a waredir bob blwyddyn
Cynllun atal sbwriel i Gymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd sbwriel o ddifri. Rydym yn dymuno ei atal rhag difetha ein hamgylchedd lleol
Er mwyn ein helpu yn hyn o beth, rydym yn gweithio ar Gynllun Atal Sbwriel newydd. Cynrychiolir partneriaeth moroedd glân Cymru ar y grŵp ymgynghorol sydd yn gweithio ar y cynllun.
Hoffem gael eich barn ar yr hyn a ddylai fod yn y cynllun atal sbwriel i Gymru yn eich barn chi.
Dolenni cysylltiedig
Cynllun Gweithredu i Gymru ar Sbwriel Môr
Sbwriel morol: beth y gallwch ei wneud