Coronafeirws (COVID-19)
Gwyddom fod hwn yn gyfnod anodd. Gwyddom hefyd mor bwysig yw cadw ein traethau yn rhydd o sbwriel. Sicrhewch eich bod chi bob amser yn dilyn y canllawiau arfer gorau ymbellhau corfforol diweddaraf.
Gellir dod o hyd i wybodaeth ychwanegol ar - Rheoliadau coronafeirws: cwestiynau cyffredin.
Sbwriel morol: beth y gallwch ei wneud
Gwnewch adduned yn nodi eich ymrwymiad i Foroedd Glân.
Mae sbwriel morol yn broblem byd eang sy’n cael effaith ddifrifol ar foroedd y byd. Y newyddion da yw y gallwn oll gyfrannu at newid hyn.
Mae unigolion, busnesau, elusennau a llywodraethau ar draws y byd yn cymryd camau. Maent yn gwneud adduned i ymgyrchu dros #MoroeddGlan fel rhan o ymgyrch y Cenhedloedd Unedig.
Cymru sy’n arwain ymgyrch Moroedd Glân y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn mynd i’r afael â phroblem sbwriel morol ac yn adeiladu ar ein llwyddiannau:
- Traethau’r Faner Las
- Ansawdd Dyfroedd Ymdrochi
- Cyfraddau ailgylchu
Rydym yn gofyn i’ch sefydliad/cymuned wneud adduned a bod yn rhan o ymgyrch byd eang y Cenhedloedd Unedig. Gall fod yn newid mor fach â’r canlynol:
- Peidio â defnyddio gwellt plastig
- Defnyddio cwpanau amldro
- Treulio 5 munud yn tacluso traeth
- Rhoi eich sbwriel yn y bin ailgylchu cywir
Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr!
Gwnewch eich adduned yn ymrwymo i Foroedd Glân
Dolenni cysylltiedig
Partneriaeth Moroedd Glân Cymru
Partneriaeth Moroedd Glân Cymru: cynnydd