Cynllun Gweithredu i Gymru ar Sbwriel Môr

Egwyddorion craidd y Cynllun yw atal, cydweithio a dod o hyd i atebion hirdymor.

Partneriaeth Moroedd Glân Cymru ddatblygodd y Cynllun Gweithredu i Gymru ar Sbwriel Môr. Cefnogwyd y gwaith o ddatblygu'r cynllun gan Lywodraeth Cymru.  

Mae'n cyd-fynd â'r nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru):

  • Cymru Gydnerth: Bydd gweithredu i leihau ac i gael gwared ar sbwriel o'n moroedd yn gwella iechyd a bioamrywiaeth yr amgylchedd morol.
  • Cymru Iachach: Mae'n bosibl y bydd llai o sbwriel i'w weld yn nyfroedd ac ar arfordir Cymru, gan hyrwyddo llesiant y bobl hynny sy'n defnyddio amgylchedd morol Cymru.  
  • Cymru sy'n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang: Mae sbwriel môr yn fater byd-eang, a thrwy roi'r Cynllun Gweithredu ar waith, bydd Cymru yn gwneud cyfraniad at lesiant byd-eang. Hefyd, pe bai llai o sbwriel i'w weld yn y môr, gallai hynny roi hwb i economïau lleol sy'n ddibynnol ar dwristiaeth.  

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, ynni a materion gwledig yn cefnogi'r cynllun gweithredu sbwriel morol. Dywedodd hi:

Mae’r broblem o ran sbwriel môr yn parhau i fod yn un o’r pethau mwyaf sy’n bygwth ein moroedd a’n hamgylchedd morol. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran mynd i’r afael â’r pwysau a wynebir gan ein hecosystemau morol.

Mae Partneriaeth Moroedd Glân Cymru yn parhau i ddatblygu ac i ymgysylltu â chynulleidfa sy’n cynyddu o hyd, gan godi ymwybyddiaeth a chefnogi digwyddiadau proffil uchel megis Ras Cefnfor Volvo yn 2018.

Rwy’n cefnogi Cynllun Gweithredu ar Sbwriel Môr 2020-23, sy’n parhau i greu tystiolaeth gadarn, datblygu polisi a hyrwyddo cydweithio.

Edrychaf ymlaen at glywed sut y mae’r cynllun hwn yn mynd rhagddo.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar Sbwriel Môr yn ddogfen a fydd yn esblygu ac yn cael ei hadolygu bob 3 blynedd. Mae'r ddogfen yn ymdrin â bygythiadau a phroblemau sy'n dod i'r amlwg, ac mae ynddo fentrau newydd i fynd i'r afael â nhw. 

Dysgwch fwy am yr hyn y gallwch ei wneud i helpu.   

Dolenni cysylltiedig

Sbwriel morol