Social entrepreneurship human resource

Pan fyddwch yn cychwyn busnes newydd, dylech ystyried recriwtio a chyflogi ei bobl – yr adnoddau dynol.  

Mewn busnes cymdeithasol, mae eu cyfranogiad yn aml yn wahanol ac yn ehangach – gallai gynnwys gwirfoddolwyr, perchennog-weithwyr neu berchnogion cymunedol. Dyna pam mae’n bwysig iawn rhoi sylw penodol i’r ffordd y mae adnoddau dynol eich menter gymdeithasol yn cael eu cyflogi.


Rheoli adnoddau dynol mewn mentrau cymdeithasol

Mae rhai busnesau cymdeithasol yn cynnwys eu gweithwyr yn y broses o lywodraethu’r sefydliad. Yn wir, mae cwmnïau cydweithredol gweithwyr yn cael eu perchen a’u cynnal yn gyfan gwbl gan eu gweithwyr. Yn yr achosion hyn, mae’r hawliau a’r cyfrifoldebau cyflogaeth yn union yr un fath ag ar gyfer unrhyw fusnes arall. Y cyfan y mae angen ei gofio o ran trefniadau llywodraethu busnes a berchnogir gan weithwyr neu gwmni cydweithredol gweithwyr yw bod angen ystyried y rolau amrywiol fel gweithiwr, aelod a chyfarwyddwr.

Lawrlwythwch ein canllaw ar gyflogi pobl i gael trosolwg manwl o reoli adnoddau dynol: 


Cymorth i fusnesau cymdeithasol gan Fusnes Cymru 

Mae Busnes Cymru yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnes. Rydym wedi rhestru isod rai adnoddau defnyddiol ar adnoddau dynol ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol.