Strwythur cyfreithiol a threfniadau llywodraethu

Mae ystod eang o strwythurau cyfreithiol y gall sefydliad eu mabwysiadu.

Bydd y strwythur cyfreithiol a ddewiswch yn pennu sawl agwedd ar gydymffurfiaeth eich busnes gan gynnwys:

  • Y math o ddogfen lywodraethol a'ch trefniadau llywodraethu
  • Rheoleiddiwr eich busn es cymdeithasol
  • Y cyd - destun cyfreithiol y mae'n rhaid i'ch busnes cymdeithasol weithredu ynddo
  • Atebolrwydd aelodau unigol o'r Bwrdd
  • Y broses gofrestru a ffioedd blynyddol.

Mae'r tabl canlynol yn nodi crynodeb o'r prif strwythurau cyfreithiol a'u cyd - destun cyfreithiol i'ch helpu i asesu'r meysydd cydymffurfio sy'n ymwneud â'ch busnes cymdeithasolwrth i chi ddarllen drwy'r canllaw.

Rheoleiddwyr a chyd-destun cyfreithiol

Mae gwahanol reoleiddwyr a chyd-destunau cyfreithiol ar gyfer pob strwythur cyfreithiol. Mae gan rai strwythurau drefniadau rheoleiddio deuol a rhaid iddynt gydymffurfio'n llawn â gofynion dau reoleiddiwr ar wahân.

Bydd y rheoleiddiwr yn nodi gofynion pen odol y bydd angen i'r busnes cymdeithasol gadw atynt. Bydd rheoleiddio’n cynnwys gofyniad i ffeilio (cyflwyno) cyfrifon ac adroddiadau gyda'r rheoleiddiwr fel a ganlyn:

Trefniadau llywodraethu ar gyfer cydymffurfiaeth busnes

Y trefniadau llywodraethu yw'r systemau a'r prosesau a ddefnyddir gan y busnes cymdeithasol i sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn effeithiol gan sicrhau ei gyfreithlondeb, ei gyfeiriad, ei effeithiolrwydd, ei oruchwyliaeth a'i atebolrwydd cyffredinol.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu'r busnes cymdeithasol. Mae llywodraethu'n wahanol i'r gweithgarwch gweithredu a rheoli o ddydd i ddydd.

Mae llawer o'r trefniadau llywodraethu wedi'u nodi yn nogfen lywodraethol ffurfiol y busnes cymdeithasol sydd wedi'i hysgrifennu fel rhan o'i broses gorffori. Mae'r ddogfen yn nodi'r rheolau sy'n berthnasol i’r busnes cymdeithasol a dylai gynnwys gwybodaeth am:

  • Yr hyn y mae'r busnes cymdeithasol wedi'i sefydlu i'w wneud
  • Sut y bydd y busnes cymdeithasol yn gwneud y pethau hynny
  • Pwy fydd yn ei redeg a'i reoli
  • Y trefniadau gwein yddol o ran aelodaeth, penodiadau Bwrdd y Cyfarwyddwyr, Aelodau neu Ymddiriedolwyr, cyfarfodydd a chofnodion ac ati.
  • Y gofynion gweinyddol o ran adroddiadau ariannol
  • Beth sy'n digwydd os yw'r busnes cymdeithasol yn dymuno cau?

Gellir galw dogfennau llywodr aethol yn wahanol bethau, yn dibynnu ar y math o endid cyfreithiol a grëwyd. Bydd gan eich busnes cymdeithasol naill ai Gyfansoddiad, Erthyglau Cymdeithasu neu Reolau Cymdeithas. Mae dogfennau llywodraethol enghreifftiol wedi'u nodi gan bob rheoleiddiwr. D ylech fod yn gyfarwydd â'r rheolau yn eich dogfen lywodraethol a sicrhau eich bod yn cadw atynt o ddydd i ddydd.

Gan fod y rhan fwyaf o ddogfennau llywodraethol yn tueddu i gael eu hysgrifennu mewn geiriad cyfreithiol ffurfiol, efallai yr hoffech drosi'r rheolau'n ganllaw ymarferol neu grynodeb 'cymorth cof' er mwyn i'ch Bwrdd a'ch staff allu cyfeirio ato a’i ddeall yn hawdd, gan dynnu sylw at y rheolau allweddol y mae'n rhaid eu dilyn.

Eisiau trafod ymhellach? Cysylltwch â sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.