MSCA COFUND Cymrodoriaethau

Ymchwilwyr unigol, 3 - 5 oed ar ôl PhD, nad ydynt wedi bod yn preswylio yn y DU am fwy na 12 mis yn y tair blynedd diwethaf, yn gallu gwneud cais am gymrodoriaeth drwy gyflwyno amlinelliad o'r ymchwil yr hoffent ei gyflawni o fewn llu sefydliad yng Nghymru.

FLWCH NEGESEUON E-BOST SER CYMRU II

Mae’n rhaid i gymrodyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd a nodir yng nghynllun COFUND MSCA SIRCIW sydd wedi’u bwriadu i hybu symudedd cymrodyr rhwng gwledydd, gan roi iddynt hyfforddiant rhagorol i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd ymchwil, ac os oes modd, rhoi iddynt brofiad rhyngsectorol trwy weithio gyda sefydliadau masnachol neu sefydliadau yn y trydydd sector.

  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn Ymchwilwyr Profiadol ar adeg y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cynigion h.y. fod ganddynt radd ddoethurol (neu fod ganddynt o leiaf bedair blynedd o brofiad o ymchwil cyfwerth ag amser llawn) a hefyd oddeutu 3 – 5 blynedd o brofiad o ymchwil ôl-ddoethurol.

  • Gall ymgeiswyr fod o unrhyw genedligrwydd ond rhaid iddynt beidio â bod wedi preswylio neu gyflawni eu prif weithgarwch (gwaith, astudiaethau ac ati) yn y Deyrnas Unedig am fwy na 12 mis yn y 3 blynedd yn union cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno cynigion (ni chymerir arosiadau byr fel gwyliau i ystyriaeth).

  • Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno ffurflen gais wedi’i llenwi a dogfennau cysylltiedig (ffurflen goruchwyliwr, ffurflen moeseg, a CV)

  • Rhaid i geisiadau gydymffurfio â’r egwyddorion moesegol sylfaenol a nodir yn yr adran nesaf

Bydd y tîm rheoli yn gwrthod ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd neu nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau a nodir yma. 

Y broses ymgeisio

Bydd angen i ymgeiswyr gynnig prosiect addas i gael ei gyflawni mewn sefydliad lletyol yng Nghymrusydd ar y rhestr. Dylid disgrifio’r prosiectau mewn dim mwy na 12 o dudalennau ar gyfer cymrodoriaethau Sêr Disglair gan ddefnyddio’r ffurflen gais briodol y gellir ei lawrlwytho yma

Bydd y prosiect ymchwil yn cael ei greu gan yr ymgeisydd ond mae’n rhaid iddo drafod hwn gyda’i ddarpar sefydliad sy’n lletya cyn ei gyflwyno. Mae angen ‘ffurflen bartner’ wedi ei llenwi gan sefydliad sy’n lletya i nodi ei fod yn fodlon derbyn y cymrawd,  pe bai’n llwyddiannus.

Bydd pob prosiect yn destun craffu moesegol a bydd angen i’r ymgeisydd ddarparu ffurflen materion moesegol wedi’i llenwi gyda’i gais.

Dylai’r ymgeisydd hefyd gyflwyno copi o’i CV diweddaraf, dim hirach na thair tudalen. Dylai hwn gynnwys gwybodaeth am ei addysg, ei gyflogaeth flaenorol a phrofiad perthnasol arall, gwybodaeth am unrhyw seibiannau gyrfa a gymerwyd ar gyfer mamolaeth neu gyfrifoldebau gofalu ac ati, a rhestr o’i holl gyhoeddiadau a grantiau a ddyfarnwyd (os o gwbl). Dylai’r ymgeisydd hefyd roi enwau dau ganolwr sy’n adnabod ei waith a’r maes ymchwil arfaethedig.

Dylai’r sefydliadau lletyol ddarparu dadansoddiad o’r costau i’r cymrawd gan ddilyn y fformat isod. Dylent hefyd sicrhau bod y cyflog yn cyrraedd o leiaf y lleiafswm a ragnodir gan y Comisiwn Ewropeaidd [ £2588 y mis-1]
 

Categori cost

Cyfraniad yr Undeb Ewropeaidd

(£ y mis)

Cyfraniad Llywodraeth Cymru (£ y mis)

Cyfraniad y sefydliad lletyol

(£ y mis)

Lwfans byw

1849

565

 

>1290

 

Lwfans symudedd

am.

am.

Teithio a chynhaliaeth

am.

am.

Lwfans teulu

am.

am.

Costau ymchwil

am.

am.

Arall

am.

am.

 

  1. Ffurflen gaisRydym yn adolygu pob ffurflen gais.  Bydd fersiynau newydd ar gael yn fuan, felly cofiwch edrych ar y dudalen hon i gael unrhyw ddiweddariad.
  2. CV, rhestr cyhoeddiadau ac enwau 2 ganolwr
  3. Datganiad Goruchwylydd neu Bartner
  4. Ffurflen materion moesegol
  5. Manylion costau

Cyfyngir ceisiadau i 18 o dudalennau, yn ogystal â CV 3 tudalen, maint ffont 11 Times New Roman neu Arial ag ymylon sydd ddim llai na 2cm (chwith, dde a gwaelod) ac 1 cm ar y brig. Dylid rhestru tystlythyrau ar ddiwedd y ddogfen a bydd hynny’n cyfrif tuag at y cyfyngiad tudalennau.

Byddwch yn cael cydnabyddiaeth o’ch ffurflen cyn pen 5 diwrnod gwaith. Os na chewch hon cysylltwch â’r tîm rheoli trwy’r un cyfeiriad e-bost.

Rhoddir y broses lawn ar gyfer adolygu a dethol ceisiadau ar y dudalen Adolygu ceisiadau.