Y Broses Ymgeisio ac Adolygu

  1. Bydd tîm rheoli’r rhaglen yn cynnal gwiriad cymhwysedd ar yr ymgeiswyr. Ni fydd unrhyw ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y canllawiau cymhwysedd yn mynd ymlaen. Cynhelir y gwiriad cyntaf ar faterion moesegol ar y cam hwn hefyd.
  2. Bydd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys yn cael eu hanfon at adolygwyr allanol, sy’n arbenigwyr yn y maes ymchwil perthnasol, i gael barn annibynnol ar ragoriaeth y cais. Nod tîm rheoli’r rhaglen fydd cael o leiaf tri adolygiad ar gyfer pob cynnig. Bydd pob canolwr yn cyflwyno adroddiad ar y cynnig y gofynnwyd iddo ei ystyried gan ddefnyddio templed adrodd y canolwyr
  3. Rhoddir cyfle i ymgeiswyr ymateb i sylwadau’r adolygwyr ac fe’u gwahoddir i gyfweliad. Cynhelir y cyfweliad trwy Skype a bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno ei gynnig ymchwil yn gryno i banel bach a fydd yn cynnwys aelodau o’r Panel Gwerthuso Annibynnol (aelodaeth), ac wedyn bydd sesiwn holi ac ateb.
  • Bydd y ceisiadau, ynghyd â’r ymatebion i sylwadau’r adolygwyr a’r ffurflen adrodd ar y cyfweliad, yn cael eu hystyried gan y Panel Gwerthuso Annibynnol a fydd yn rhoi barn ar y cynnig.  a/  Ar gyfer cymrodoriaethau COFUND, bydd y sgorau terfynol i bob ymgeisydd yn cynnwys sgorau’r 3 adolygydd allanol a’r Panel Gwerthuso Annibynnol (70% o’r sgôr derfynol) a sgôr y panel cyfweld (30% o’r sgôr derfynol). Ar sail y rhestr fer o ymgeiswyr a grëir fel hyn, bydd y Panel Gwerthuso Annibynnol yn gwneud argymhelliad terfynol ar gyfer ariannu i Fwrdd Buddiolwyr y Rhaglen.
  • Ar gyfer ceisiadau eraill, caiff y cynigion eu graddio ar sail ansawdd yr ymgeisydd, ffit strategol a chynaliadwyedd y swydd/maes ymchwil
  1. Rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr am ganlyniad eu cynigion a gall yr ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl cael contract cyflogaeth oddi wrth eu sefydliad lletyol cyn pen 3 mis ar ôl cael eu penderfyniad.

Meini Prawf Gwerthuso ar Gyfer Adolygu a Dethol Ceisiadau

A. Cymrodoriaethau COFUND

Bydd angen i geisiadau ddangos rhagoriaeth wyddonol. Bydd angen iddynt ategu gweithgarwch sy’n digwydd eisoes yng Nghymru a chyfrannu at Strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru ac Arbenigo Craff lle bo’n briodol. Bydd rhagoriaeth yn seiliedig ar i) potensial yr ymgeisydd o ran ymchwil, ii) arbenigedd y goruchwyliwr a pha mor briodol yw’r amgylchedd ymchwil o’r wybodaeth a roddir ar y ffurflen gais, a iii) y ddadl wyddonol dros y prosiect a gynigir. Caiff gwahanol rannau’r gwerthusiad eu pwysoli fel y dangosir.
 

Rhagoriaeth (50%)

Effaith (30%)

Gweithredu (20%)

Ansawdd ymchwil a phrofiad blaenorol yr ymgeisydd

Darparu sgiliau newydd a phersbectif  gyrfaoedd i’r Cymrawd

Pa mor gydlynol, effeithiol a phriodol yw’r cynllun gwaith

Ansawdd yr oruchwyliaeth a pha mor briodol yw’r cyfleusterau ymchwil yn y sefydliad lletyol

Pa mor effeithiol yw’r gweithgareddau arfaethedig o ran lledaenu’r canlyniadau a lefelau gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd

Amodau penodi’r Cymrawd

Ansawdd yr opsiynau ymchwil sydd ar gael i’r Cymrawd yn nhermau gwyddoniaeth, symudedd rhwng gwledydd, profiad rhyngsectorol a rhyngddisgyblaetholdeb lle bo’n briodol

Y potensial i ymchwil gael effaith ar yr economi, cymdeithas, diwylliant, polisi neu wasanaethau cyhoeddus, iechyd, yr amgylchedd neu ansawdd bywyd

Gallu’r sefydliad lletyol i gynorthwyo’r Cymrawd

Ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir y tu hwnt i ddarpariaeth hyfforddiant ganolog SIRCIW

Lefel gweithgarwch y Cymrawd yn y gymuned ymchwil ehangach

Cymorth i ddatblygiad y Cymrawd fel arweinydd ym maes ymchwil yn y dyfodol

 

B. CYMRODORIAETHAU SÊR DISGLAIR, ADENNILL TALENT A SÊR CYMRU II  

Bydd angen i geisiadau ddangos rhagoriaeth wyddonol. Bydd angen iddynt ategu gweithgarwch sydd eisoes ar y gweill yng Nghymru a chyfrannu at Strategaeth Gwyddoniaeth i Gymru ac Arbenigo Craff, lle bo’n briodol. Caiff rhagoriaeth ei seilio ar i) potensial ymchwil yr ymgeisydd ii) arbenigedd y goruchwylydd/partner a phriodoldeb yr amgylchedd ymchwil o’r wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen gais iii) yr achos gwyddonol dros y prosiect a gynigir. Caiff y ceisiadau eu graddio ar sail ansawdd yr ymgeisydd, ffit strategol a chynaliadwyedd y swydd/maes ymchwil.