Rheoli'r Rhaglen a Rhobl Gyswllt
Y TIM RHEOLI RHAGLEN – trwy COFUND
PWYLLGORAU A PHANELI
Y Panel Gwerthuso Annibynnol: Bydd hwn yn gweithredu mewn ffordd debyg i fwrdd ymchwil Cyngor Ymchwil cenedlaethol a bydd pob penderfyniad gwyddonol yn cael ei wneud ar sail teilyngdod, fel y’i hasesir gan adolygiad gan gymheiriaid, heb unrhyw fewnbwn gan weinidogion na gweision sifil. Gofynnir i aelodau o’r gymuned gwyddoniaeth a busnes ystyried ceisiadau am gymrodoriaeth unwaith y flwyddyn yn nhair blynedd gyntaf y SIRCIW pum mlynedd. Cafodd y panel ei recriwtio trwy gystadleuaeth agored a thryloyw.
Nodir yr aelodau yn y tabl isod. Bydd y Panel hwn yn sicrhau cydymffurfiaeth â phrotocolau llywodraethu caeth, yn unol â’r canllawiau a ddilynir gan Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig, ac yn rhoi sylw penodol i ymdrin yn briodol â gwrthdaro buddiannau. Bydd pob aelod o’r panel yn gweithredu fel rapporteur ar gyfer un neu ragor o’r cynigion yng nghyfarfod y panel, gan roi ei sylwadau a’i sgorau ar bob un.
Dr |
Wendy Ewart |
Cadeirydd, Ymgynghorydd Annibynnol ar Fiofeddygaeth, |
Yr Athro |
Graham Davies |
Athro Emeritws, UNSW, Awstralia |
Yr Athro |
Peter McGuffin |
Athro Emeritws, King's College London |
Yr Athro Syr |
John Enderby |
Athro Emeritws, Prifysgol Bryste |
Yr Athro |
Alan Palmer |
Entrepreneur ac Athro Gwadd (UCL a Reading) |
Yr Athro |
Robert Beynon |
Pennaeth yr Adran Biocemeg, Prifysgol Lerpwl |
Yr Athro |
Marlene Sinclair |
Athro Bydwreigiaeth, Prifysgol Ulster |
Yr Athro |
Xiao Yun Xu |
Athro, Peirianneg Gemegol, Imperial College London |
Yr Athro |
David Toll |
Athro, Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cyfrifiadurol, Durham |
Yr Athro |
Nigel Brown |
Athro Emeritws, Prifysgol Caeredin |
Yr Athro |
Nigel John |
Athro, Adran Cyfrifiadureg, Prifysgol Caer |
Mr |
Andris Bankovskis |
Ymgynghorydd Ynni Annibynnol |
Bwrdd Buddiolwyr y Rhaglen: Bydd ‘Bwrdd Buddiolwyr y Rhaglen’ yn cael ei gadeirio gan Chris Hale, Head of Operations, Chief Scientific Adviser's Division.
Gallai’r aelodau eraill gynnwys uwch aelodau o staff Llywodraeth Cymru; Prif Weithredwr CCAUC; a Dirprwy Is-Gangellorion Ymchwil y prifysgolion partner.
Grŵp Goruchwylio Ymchwil ac Arloesedd Cyfrifol: Bydd hwn yn grŵp o dri o bobl sydd â phrofiad o eistedd ar baneli adolygu moesegol a/neu arbenigedd mewn materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd y grŵp hwn yn goruchwylio’r gwaith o reoli materion moesegol ac yn cael adroddiadau blynyddol ar y ffordd mae materion sy’n ymwneud ag ymchwil ac arloesedd cyfrifol yn cael sylw trwy’r rhaglen a chan gymrodoriaethau unigol a ddyfarnwyd. Caiff ei benodi cyn bo hir trwy gystadleuaeth agored a thryloyw