Ffurflen Materion Moesegol
Mae adolygiad moesegol trylwyr yn rhan annatod o unrhyw ymchwil wyddonol ac mae ei angen, nid yn unig er mwyn parchu’r fframwaith cyfreithiol, ond hefyd i wella ansawdd yr ymchwil. Bydd adolygiad moesegol o bob cynnig yn cael ei gyflawni yn unol â chanllawiau Horizon 2020 ar foeseg ymchwil ac mae’n orfodol ar gyfer pob cais.
Dylai’r holl weithgareddau ymchwil yn rhaglen Horizon 2020 barchu egwyddorion moesegol sylfaenol, gan gynnwys y rheiny a adlewyrchir yn Siarter Hawliau Sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r egwyddorion hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau rhyddid ymchwil a’r angen i warchod cyfanrwydd corfforol a moesol unigolion a lles anifeiliaid.
Os oes o leiaf un mater moesegol wedi’i gadarnhau, bydd y cynnig yn destun sgriniad moesegol cyflawn a fydd yn asesu goblygiadau moesegol yr ymchwil arfaethedig ac yn asesu a ymdriniwyd â hwy mewn modd priodol yn y cynllun gwaith. Mae gan yr holl brifysgolion partner yn y rhaglen hon bwyllgorau adolygiadau moesegol sydd wedi’u hen sefydlu ac mewn sefyllfa i gyflawni unrhyw asesiadau moesegol gofynnol. Mae cynigion sy’n golygu defnyddio Bôn-gelloedd Embryonig Dynol (hESCs) yn cael eu symud yn awtomatig i ail gam yr asesiad moesegol.
Ar gyfer pob maes a nodir yn y Tabl Materion Moesegol, gofynnir i’r cymrawd ddisgrifio sut mae ei gynnig yn cydymffurfio â:
-
Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd ar Foeseg (e.e. Cyfarwyddeb 2010/63/EU o Senedd Ewrop ac o’r Cyngor dyddiedig 22 Medi 2010 ar warchod anifeiliaid a ddefnyddir at ddibenion gwyddonol, deddfwriaeth bresennol yr Undeb Ewropeaidd ar ddiogelu data a phreifatrwydd ac ati);
-
Deddfwriaeth ac arferion da cenedlaethol ar foeseg ymchwil;
-
Gofynion moesegol unrhyw Drydydd Gwledydd lle mae ymchwil sy’n codi materion moesegol i gael ei gwneud.
Gofynnir i ymgeiswyr esbonio’n fanwl sut maent yn bwriadu ymdrin â’r materion moesegol a nodir yn y Tabl Materion Moesegol gan roi sylw penodol i amcan, methodoleg ac effaith bosibl yr ymchwil.