Cwestiwn Allforio yr Wythnos - Canlyniadau
Gofynnodd cwestiwn yr wythnos diwethaf, 'Ble yng Nghymru mae eich cwmni wedi'i leoli? Dewiswch un.’ Dyma'r canlyniadau:
- Y Gogledd = 18%
- Y Canolbarth = 6%
- Y De = 74%
Mae'r canlyniadau'n dangos bod mwyafrif llethol y busnesau a ymatebodd i gwestiwn yr wythnos hon wedi'u lleoli yn ne Cymru.
Rydym yn cynnig cymorth allforio i fusnesau ledled Cymru gyda thîm o Gynghorwyr Masnach Ryngwladol ar gael i gynnig cymorth i'ch busnes. Os hoffech gysylltu â Chynghorydd, cysylltwch â ni yma.
Mae cynadleddau blynyddol Archwilio Allforio Cymru ar y gorwel, gyda digwyddiadau'n cael eu cynnal yn y Gogledd a'r De, lle gallwch ddarganfod popeth am sut y gall allforio helpu i drawsnewid eich busnes. Os hoffech gael gwybod mwy am y digwyddiadau hyn a chofrestru'ch diddordeb, cliciwch yma.