Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei rhith-ymweliad â marchnad allforio’r Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl
Pam y Weriniaeth Tsiec?
Y Weriniaeth Tsiec yw un o'r marchnadoedd mwyaf sefydlog a ffyniannus yng nghanolbarth Ewrop.
Mae'r Weriniaeth Tsiec yn parhau i fod yn farchnad ddeniadol ar gyfer allforio ac mae'n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymru.
Pam Gwlad Pwyl?
Gwlad Pwyl yw un o'r gwledydd a fu’n datblygu gyflymaf yn yr UE yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Gwlad Pwyl ar groesffordd llwybrau masnach a thrafnidiaeth Ewropeaidd. Gall fod yn bwynt mynediad i wledydd eraill Canolbarth a Dwyrain Ewrop yn ogystal â marchnadoedd datblygol ymhellach i'r dwyrain.
Mae gwneud busnes yng Ngwlad Pwyl yn debyg iawn i wneud busnes yn y DU. Os bydd eich cynnyrch neu wasanaeth yn llwyddiannus yn y DU, mae siawns dda y byddwch yn llwyddiannus yng Ngwlad Pwyl.
Pam Mynd ar y Rhith-ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost-effeithiol o ymchwilio i’r farchnad heb orfod gadael eich swyddfa na’ch cartref
- Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf
- Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad
- Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig lleoedd cychwynnol am ddim yn ei rhith-ymweliad i fusnesau o Gymru â marchnad allforio’r Weriniaeth Tsiec a Gwlad Pwyl.
Bydd y rhith-ymweliad yn cynnwys:
- Rhith-sesiwn friffio am y farchnad
- Trefnu rhith-gyfarfodydd â hyd at 3-4 cyswllt busnes a phenderfynwr yn y farchnad
- Cymorth un-i-un â chynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
- Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Eich Ymrwymiad
Bydd y rhith-ymweliad hwn â’r farchnad allforio yn cael ei gynnal dros gyfnod 6-8 wythnos, trwy alwadau fideo rhwng 10 am – 4pm . Ni fyddant yn digwydd bob dydd, a chewch rybudd eu bod yn cael eu cynnal. Byddwn yn gallu cadarnhau yn y cyfarfodydd un-i-un pryd y byddwch ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr ymweliad hwn felly ni chodir tâl arnoch i gymryd rhan, ond rydym yn gofyn ichi beidio â gwneud cais oni bai’ch bod yn gallu addo eich bod ar gael ar gyfer y cyfarfodydd a drefnir ichi.
Gwirio cymhwyster
- Ydych chi’n fusnes sydd wedi’i leoli yng Nghymru?
- Ydych chi eisoes yn allforio neu allech chi allforio’n llwyddiannus?
- Ydy eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth yn tarddu’n bennaf o Gymru (neu’n ychwanegu gwerth sylweddol at gynnyrch neu wasanaeth nad yw’n tarddu o Gymru)?
- Ydy eich busnes yn berchen ar yr Eiddo Deallusol neu’r brand rydych yn ei werthu (neu fod ganddo’r hawl i wneud hynny)?
- Oes gan eich busnes uchelgais glir i dyfu drwy allforio yn rheolaidd ac mewn modd cynaliadwy?
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 3 Medi 2021
*Yn amodol ar fod yn gymwys.