Mae CellPath, cwmni gweithgynhyrchu yn y Drenewydd, yn arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi'r offer a'r gwasanaethau a ddefnyddir i ganfod canser.

Mae'r cwmni'n allforio'i gynnyrch i dros 40 o wledydd ar draws Ewrop, America, Asia, Affrica a'r Dwyrain Canol, gan gynnwys yr UAE, Qatar ac Irac.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'r cwmni wedi gosod pwyslais ar werthiannau rhyngwladol ac wedi gweld ei allforion yn dyblu yn ystod y cyfnod hwnnw fel eu bod i gyfrif am ryw draean o drosiant y grŵp heddiw.

Uchelgeisiau allforio

Nawr mae'r cwmni wedi gosod ei olygon ar ddyblu ei drosiant allforio yn y Dwyrain Canol a De Asia dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'r rhanbarthau hyn yn farchnadoedd targed allweddol diolch i'r sector feddygol sy'n tyfu ar garlam yno wrth i fuddsoddiad y llywodraeth yn y system gofal iechyd a lefelau cynyddol o dwristiaeth feddygol i'r ardal yrru twf yn y diwydiant. 

I gyflawni hyn, mae'r cwmni'n bwriadu ehangu ei gysylltiadau dosbarthu rhyngwladol a mentro i diriogaethau newydd gan gynnwys Saudi Arabia, Lebanon, yr Aifft a Phacistan. 

Mae CellPath wedi bod yn edrych tua'r farchnad ryngwladol ers i'r cwmni gael ei sefydlu'n wreiddiol ym 1990, pan ddiogelodd rhai o'i gleientiaid tramor cyntaf ar ôl mynychu sioe fasnach fwyaf y byd meddygol yn Dusseldorf.

Mae sioeau masnach wedi parhau i fod yn rhan allweddol o strategaeth allforio'r cwmni byth ers hynny a byddant yn cynorthwyo twf y cwmni yn y Dwyrain Canol a De Asia. Yn gynharach eleni, dychwelodd y cwmni o'r arddangosfa MEDLAB yn Dubai, lle cafodd gyfle i gyfarfod â darpar-bartneriaid dosbarthu newydd ym Mhacistan a chryfhau ei berthynas â dosbarthwr cyfredol yn y rhanbarth ehangach. 

Buddsoddiad yng Nghymru

Yn dilyn cynnydd yn y galw am ei gynnyrch dramor, mae CellPath wedi buddsoddi dros £2m mewn stordy dosbarthu rhyngwladol a pheiriannau newydd ym mhencadlys y cwmni yng Nghymru, yn ogystal â chyflogi chwe aelod ychwanegol o staff ar draws ei dimau allforio a rheoliadol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod o help mawr gyda llwyddiant allforio CellPath, trwy ei gynorthwyo i fynychu teithiau masnach ac ymweld â rhanbarthau newydd, yn ogystal â chyflawni gwaith ymchwil i farchnadoedd targed er mwyn canfod faint o archwaeth sydd yna am ei gynnyrch.

Dywedodd Simon Owen, Pennaeth Allforio CellPath: "Rydyn ni'n chwilio'n barhaus am ffyrdd o dyfu'r busnes a bydd hybu gwerthiannau lleol yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hynny.

“Rydyn ni eisoes yn arwain y farchnad yn y DU, ond ein nod yw arwain y farchnad ar draws y byd i gyd. Mae'r farchnad gwyddorau bywyd ar dwf yn y Dwyrain Canol, gyda llawer o fuddsoddiadau ar y gweill yn sector meddygol y rhanbarth, sy’n sbarduno cyfleoedd i ni.

Mae Simon yn bendant fod mynd i sioeau masnach ac ymweld â'r marchnadoedd eu hunain yn hanfodol i fusnesau am fod hyn yn rhoi cyfle i'r cleientiaid weld ansawdd eu cynnyrch â’u llygaid eu hunain. Mae hynny wedi ategu hygrededd CellPath gan alluogi'r cwmni i feithrin a chynnal perthnasau â phartneriaid.

Ychwanegodd Simon: "Rydyn ni wedi bod yn ffodus dros ben i gael digonedd o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd i fynychu sioeau masnach, ymchwilio i farchnadoedd targed, a dod o hyd i  gleientiaid a chyflenwyr newydd gan ddefnyddio'u cysylltiadau nhw. Mae'r cymorth yma wedi ein galluogi ni i ddiogelu pob math o fusnes newydd, gan ein helpu ni i barhau i dyfu.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen