Mae Frog Bikes ym Mhont-y-pŵl, cynhyrchydd blaenllaw beiciau ysgafn a fforddiadwy ar gyfer plant, wedi datblygu portffolio rhyngwladol helaeth ers ffurfio'r busnes wyth mlynedd yn ôl, gyda'i gynnyrch yn cael ei werthu mewn dros 50 o wledydd ar draws pedwar cyfandir, gan gynnwys UDA a Hong Kong.

Mae'r cwmni wedi gwneud enw da i'w hun ar draws y byd am ei gynnyrch o safon uchel, sy'n cael ei ddylunio a'i adeiladu’n bwrpasol yn ei ffatri i gydweddu ag anghenion ac anatomi plant. 

Ymhlith cleientiaid y cwmni yn y DU mae Dug a Duges Caergrawnt, a gwelwyd eu mab, y Tywysog Louis, yn reidio un o feiciau cydbwyso'r cwmni mewn delweddau a ryddhawyd ar ei ben-blwydd yn dair oed. 

Potensial allforio ar unwaith

Sefydlwyd y cwmni ym 2013 gan y gŵr a gwraig, Jerry a Shelley Lawson, ar ôl iddynt gael trafferth dod o hyd i feiciau oedd yn addas ar gyfer eu plant. Bwriad gwreiddiol Frog Bikes oedd canolbwyntio'n llwyr ar fasnachu yn y DU, ond cafwyd diddordeb o dramor ar unwaith, a dechreuodd y cwmni allforio ym mis Ebrill yr un flwyddyn.

Ers hynny, mae'r cwmni wedi bod yn gweithredu ag agenda rhyngwladol, ac erbyn hyn allforion sydd i gyfrif am 55% o'i fusnes a dros hanner ei drosiant.

Ar hyn o bryd, mae gan y cwmni tua 1,800 o werthwyr ar draws y byd, gan gynnwys yn America, Canada, Awstralia, Tsieina, Seland Newydd a nifer o wledydd Ewropeaidd. 

Gwledydd newydd, contractau newydd

Yn fwyaf diweddar, mae Frog Bikes wedi diogelu contractau yn Slofacia a'r Ynys Las, ac mae'n chwilio am farchnadoedd newydd ar hyn o bryd. Mae'n gobeithio hefyd ymestyn ei bresenoldeb yn UDA, sef marchnad fwyaf y byd am feiciau plant, lle mae dros dair miliwn o feiciau plant yn cael eu gwerthu bob blwyddyn.

Mae strategaeth Frog Bikes wrth recriwtio cynrychiolwyr gwerthu ar lawr gwlad yn y gwledydd targed i ddod o hyd i siopau lleol, trefnu gwerthiannau a threfnu marchnata mewn ieithoedd lleol wedi bod yn allweddol i dwf a llwyddiant y cwmni. Mae Frog Bikes yn darparu beics ar gyfer cynghorau lleol, ysgolion a hyfforddwyr beicio hefyd.

Twf ac ehangu parhaus

Yn 2016, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru symudodd Frog Bikes i'w gartref presennol, sef ffatri 120,000 troedfedd sgwâr ym Mhont-y-pŵl, er mwyn hwyluso twf pellach. Galluogodd hyn iddo  gynyddu ei gapasiti cynhyrchu a chynyddu ei allforion trwy hynny. 

Ac mae'r galw rhyngwladol am gynnyrch y cwmni'n parhau i dyfu ar garlam, gyda'r gwerthiannau sydd ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf bron â bod dwbl y ffigurau cyfredol. 

Mae'r cwmni am recriwtio rhagor o staff ar draws y busnes, gan gynnwys 15 o weithwyr ffatri a rhwng pump a deg o gynrychiolwyr rhyngwladol, er mwyn galluogi iddo gynhyrchu mwy er mwyn cadw i fyny â'r cynnydd yn y galw. 

Dywedodd Jerry Lawson, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Frog Bikes: "Mae allforio'r rhan annatod o'n busnes ac mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn ein twf dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r farchnad fyd-eang am feiciau plant yn anferth. Mae'n cynnig digonedd o gyfleoedd i ni, a dyna pam ein bod ni'n bwriadu hybu ochr ryngwladol ein busnes eto fyth wrth edrych tua'r dyfodol.

“Ers sefydlu ein pencadlys gweithgynhyrchu yng Nghymru bum mlynedd yn ôl, rydyn ni wedi cael amrywiaeth o gymorth gan Lywodraeth Cymru trwy Fusnes Cymru, gan gynnwys cymorth ariannol i sicrhau ein presenoldeb mewn sioeau masnach rhyngwladol, grantiau i recriwtio rhagor o staff, a chymorth i ddod o hyd i gysylltiadau posibl mewn tiriogaethau newydd, sy'n bwysig dros ben i ni.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen