Boakashi - Diweddariad Terfynol

Prif ganlyniadau:

  • Fe wnaeth tail buarth a oedd wedi cael ei drin gyda Bokashi ddiraddio i ansawdd a oedd yn haws i’w drin a’i wasgaru. 

Cefndir:

Mae bokashi yn ddull compostio o Japan sy’n defnyddio Micro-organebau Effeithiol mewn proses anaerobig. Mae’r broses yn creu deunydd wedi’i dreulio sy’n llawn maetholion y gellir ei ddefnyddio i wella pridd ac fel gwrtaith organig. Roedd fferm Carreg yn awyddus i dreialu bokashi ar wellt. Dyma’r tro cyntaf iddynt ei ddefnyddio, ac nid oedd ganddynt lawer o wybodaeth am y broses o ddefnyddio’r cynnyrch. Ond gyda phoblogrwydd cynyddol bokashi, roeddent yn awyddus i’w dreialu.

Diben y gwaith:

  1. Hybu arferion ffermio cynaliadwy: Rydym yn gobeithio annog gwahanol ddulliau o drin tail a slyri a allai arwain at weithredu arferion ffermio cynaliadwy, gan hybu cynaliadwyedd amgylcheddol ac amaethyddol hirdymor.
  2. Gwella iechyd y pridd: Trwy dreialu’r dulliau hyn i gompostio tail buarth, mae gan y prosiect botensial i wella iechyd a ffrwythlondeb y pridd, gan gyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor tir amaethyddol.
  3. Gwella cynhyrchiant amaethyddol: Trwy reoli tail yn effeithiol a gwella ffrwythlondeb y pridd, nod y prosiect yw hybu cynhyrchiant amaethyddol, gan arwain at gynnydd mewn twf a chynnyrch y borfa a phroffidioldeb.

Yr hyn a wnaed:

Fe wnaeth fferm Carreg glustnodi sied a oedd yn cadw gwartheg sugno i’w rhannu’n ddwy ran. Cafodd un rhan ei thrin gyda Bokashi gan adael yr hanner arall heb ei drin. Y cynnyrch a ddefnyddiwyd oedd Agriton Actiferm, sef micro-organebau effeithiol sy’n gweithredu ar ôl cael ei gymysgu a’i wasgaru’n unol ag argymhellion y gwneuthurwyr o ran crynodiad a defnydd. Cynhaliwyd y prosiect rhwng diwedd mis Tachwedd 2023 hyd ddiwedd mis Chwefror 2024. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd y sied ei garthu ddwywaith gyda’r tail yn cael ei osod mewn dwy domen, gyda’r domen a oedd wedi’i thrin gyda bokashi yn cael ei gorchuddio gyda phlastig du i greu atmosffer anaerobig. Cafodd y domen a oedd wedi derbyn triniaeth ei gorchuddio am 12 wythnos cyn i’r ddwy domen gael eu gwasgaru ar gaeau glaswellt.

Canlyniadau:

Ni wnaeth y ffermwr nodi unrhyw wahaniaeth gweledol rhwng hanner y sied a oedd wedi derbyn triniaeth o’i gymharu â’r hanner arall. Defnyddiwyd yr un faint o wellt ac ni welwyd unrhyw wahaniaethau o ran glendid y gwartheg. 

Gwelwyd y prif wahaniaeth gweledol rhwng y ddwy domen ar ôl tynnu’r plastig oddi ar y domen a oedd wedi derbyn triniaeth. Mae ffigur 1 yn dangos y domen wedi diraddio gyda llai o wellt yn weddill a gwell ansawdd o’i gymharu â ffigur 2.

 

Ffigur 1. Tail buarth wedi’i drin â Bokashi   Ffigur 2: Tail buarth heb ei drin

Nododd y ffermwr bod y tail buarth a oedd wedi cael ei drin yn llawer haws i’w drin a’i fod yn gwasgaru’n llawer mwy cyson ar y tir o’i gymharu â’r tail buarth heb ei drin, lle’r oedd darnau mawr o dail i’w weld ar arwyneb y cae. O ganlyniad, roedd y tail wedi’i drin yn cael ei ymgorffori’n gynt i’r pridd. 

Anfonwyd sampl o dail buarth o’r domen a oedd wedi’i thrin a’r domen heb ei thrin i labordy NRM i’w dadansoddi. Mae’r canlyniadau i’w gweld yn nhabl 1. 

 

Tabl 1: Canlyniadau NRM ar gyfer astudiaeth Bokashi Cyswllt Ffermio 

 

Heb ei drin

Wedi’i drin â Bokashi

Deunydd sych (%)

52.5

32.3

pH

8.51

8.58

Cyfanswm-N % w/w

3.16

2.61

Amoniwm-N mg/ kg

304

138

Nitrad-N mg/kg

517

<10

Cyfanswm-P % w/w

0.322

0.427

Cyfanswm-K % w/w

5.48

4.34

Cyfanswm-Mg % w/w

0.382

0.386

Cyfanswm-S % w/w

0.411

0.347

Cyfanswm-Cu mg/ kg

52.9

102

Cyfanswm-Zn mg/ kg

85.8

128

Cyfanswm-Na % w/w

0.378

0.762

Cyfanswm-Ca mg/ kg

11804

12354

Sut i’w roi ar waith ar eich fferm:

1.     Mae Bokashi yn gynnyrch newydd sy’n dod i’r amlwg. Ychydig iawn o waith ymchwil ac astudiaethau gwyddonol sydd wedi cael eu gwneud ar ddefnyddio bokashi ar dail buarth.

2.     Mae ambell i gwmni’n gwerthu Micro-organebau Effeithiol, a chynghorir y dylid gwneud gwaith ymchwil annibynnol.

3.      Cynnal arbrawf tebyg ar eich fferm i ganfod effeithiau bokashi ar dail buarth fyddai’r ffordd orau o ganfod y buddion posibl. 

4.      Un o’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect hwn oedd cymryd sampl o’r tail buarth cyn gorchuddio’r domen. Trwy wneud hynny, byddai modd cymharu cyn ac ar ôl eplesu.