Mae cronfa gwerth £300,000 i ddarparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau heddiw (dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf).

Bydd y cynllun grantiau bach, a fydd yn mynd i’r afael â 10 cam allweddol ‘Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod’ Llywodraeth Cymru, yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru a’r nod yw gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru, a’u hymwybyddiaeth ohonynt.  Mae hefyd yn ceisio annog cydweithredu rhwng busnesau lletygarwch a bwyd a diod Cymru er mwyn gwneud mwy o ddefnydd o fwyd a diod lleol, a chynyddu faint o fwyd a diod o Gymru sy’n cael ei gynnig ar fwydlenni ac mewn siopau manwerthu.

Mae’r cynllun yn agored i wyliau a digwyddiadau sy’n cael eu cynnal rhwng 1 Gorffennaf 2023 a 31 Mawrth 2024.  Mae’n dwyn ynghyd feysydd bwyd-amaeth, prosesu bwyd, cyrchfannau twristiaeth, y sector gwasanaeth bwyd, gwyliau bwyd a mannau manwerthu bwyd mewn un cynllun.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru: “Bydd y cynllun grantiau bach hwn yn darparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd sydd â syniadau arloesol ar sut i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru. 

 “Mae bwyd a diod o Gymru yn mynd o nerth i nerth, gyda llawer o gynnyrch cyffrous, a chynnyrch o ansawdd uchel ar gael.  Rwy’n falch o allu cyhoeddi bod y cynllun grantiau bach hwn nawr ar agor, er mwyn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ledaenu’r gair am ansawdd gwych y bwyd a’r diod sydd gennym yma yng Nghymru.

 “Bydd yn elwa ar y buddion economaidd o ddarparu profiad diwylliannol arbennig, unigryw, o ansawdd uchel i ymwelwyr, yn adeiladu rhwydweithiau ac yn addysgu busnesau.”

Mae manylion llawn y cynllun gan gynnwys manylion cymhwystra a sut i ymgeisio ar gael yma: businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/tyfu-eich-busnes/twristiaeth-bwyd  

Mae ‘Gweledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod’ gan Lywodraeth Cymru ar gael yma businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/gweledigaeth-strategol/gweledigaeth-ar-gyfer-y-diwydiant-bwyd-diod-o-2021

Share this page

Print this page