Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Carthu a gwaredu


Image removed.

Amcanion CMCC ar gyfer sectorau

Cynnal mynediad mordwyol diogel ac effeithiol ar gyfer llongau, cychod pysgota a hamdden a hybu twf yn y dyfodol a chynnydd yng nghyfleusterau porthladdoedd a meintiau llongau gan hyrwyddo’r defnydd cynaliadwy gorau posibl o ddeunydd a garthwyd a sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael ar gyfer gwaredu deunydd.

Beth yw'r sector carthu a gwaredu

Mae carthu a gwaredu’n cynnwys:

  • symud deunydd o un ardal o wely’r môr 
  • adleoli’r deunydd a gloddiwyd mewn man arall i’w waredu. 

Caiff y rhan fwyaf o waith carthu a gwaredu morol ei wneud:

  • at ddibenion mordwyo llongau
  • er mwyn datblygu porthladdoedd sydd eisoes yn bod a rhai a gaiff eu datblygu yn y dyfodol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud hefyd er mwyn hwyluso mathau eraill o waith yn y môr.  

Mae carthu a gwaredu’n wahanol i garthu agregau, lle mae agregau’n cael eu carthu am eu gwerth economaidd. 

Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau

D&D_01: carthu a gwaredu (cefnogi)

Bydd cynigion sy’n cadw sianeli mordwyadwy a mynediad hirdymor i safleoedd agored ar y môr ar gyfer gwaredu deunydd priodol yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.

Map o’r sectorau

Edrychwch ar y sector carthu a gwaredu  ar y Porth Cynllunio Morol. 

Dolenni perthnasol

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru