Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Dyframaeth
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Hwyluso datblygu dyframaeth gynaliadwy yn nyfroedd Cymru, gan gynnwys hyrwyddo busnesau arloesol pysgod, pysgod cregyn a morol a chadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Beth yw'r sector dyframaeth
Mae’r sector dyframaeth yn magu neu’n tyfu organeddau dyfrol, gan gynnwys pysgod asgellog, pysgod cregyn ac algâu.
Caiff yr organeddau hyn eu tyfu:
- at ddibenion masnachol uniongyrchol
- er mwyn ailstocio a gwella poblogaethau gwyllt.
Mae’r polisi yn CMCC yn adlewyrchu amcan Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad:
- pysgod cregyn cynaliadwy
- pysgod asgellog
- cynhyrchu algâu morol drwy ddyframaethu a datblygu’r cadwyni cyflenwi cysylltiedig.
Gall dyframaeth helpu i gynnal twf economaidd cynaliadwy mewn cymunedau gwledig ac arfordirol yn ogystal â chyfrannu at ddiogelu’r cyflenwad bwyd.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
AQU_01: dyframaeth (cefnogi)
AQU_01 a
Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau dyframaeth newydd yn cael eu cefnogi lle meant yn cyfrannu at amcanion y cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
AQU_01 b
Anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a’r sector, ar y cyd â phartïon cysylltiedig eraill, i gydweithio i ddeall cyfleoedd ar gyfer defnyddio adnoddau dyframaeth yn gynaliadwy, gan gynnwys nodi:
- adnoddau naturiol sy’n cynnig potensial o safbwynt dyframaeth
- cyfleoedd i ddiffinio ac, unwaith y maent ar waith, i ddatblygu a mireinio ymhellach Ardaloedd Adnoddau Strategol ar gyfer dyframaeth
er mwyn cefnogi datblygiad cynaliadwy’r sector dyframaeth trwy gynllunio morol.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y sector dyframaeth ar y Porth Cynllunio Morol.