Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC): Twristiaeth a hamdden
Amcanion CMCC ar gyfer sectorau
Cyfrannu at dwf cynaliadwy drwy ddiogelu a hyrwyddo mynediad i’r arfordir a gwella ansawdd profiad yr ymwelydd gan ledaenu’r enw da sydd gan Gymru fel cyrchfan cynaliadwy o’r radd flaenaf ar gyfer twristiaeth a hamdden morol.
Beth yw’r sector twristiaeth a hamdden
Mae hamdden yn golygu gweithgareddau hamdden yn ystod amser rhydd yn yr amgylchedd lleol yn bennaf. Mae twristiaeth yn golygu gweithgareddau, gwasanaethau a seilwaith sy’n gysylltiedig ag ymwelwyr a phobl ar wyliau.
Gall gweithgareddau twristiaeth fod yn gysylltiedig â hamdden hefyd. Mae CMCC yn cydnabod bod twristiaeth a hamdden yn:
- bwysig i economi Cymru
- hanfodol i economi nifer o’n hardaloedd arfordirol.
Mae rhyw 50% o’r swyddi llawnamser sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd morol ac arfordirol yn gysylltiedig â thwristiaeth. Mae twristiaeth a hamdden yn hybu gweithgareddau economaidd ac adfywio ehangach yn lleol. Mae cryn botensial i ddatblygu’r sector hwn ac fe’i hystyrir yn flaenoriaeth strategol ym maes cynllunio morol.
Polisïau yn y CMCC ar gyfer sectorau
T&R_01: twristiaeth a hamdden (cefnogi)
T&R_01 a
Bydd cynigion sy’n dangos cyfraniad cadarnhaol at gyfleoedd twristiaeth ac adloniant ac amcanion polisi (ar gyfer y sector) o amgylch arfordir Cymru yn cael eu cefnogi lle maent yn cyfrannu at amcanion y Cynllun hwn. Dylai cynigion gydymffurfio â pholisïau cyffredinol perthnasol a pholisïau diogelu’r Cynllun hwn ac unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill.
T&R_01 b
Anogir awdurdodau cyhoeddus perthnasol a’r sector, ar y cyd â phartïon cysylltiedig eraill, i gydweithio i ddeall cyfleoedd ar gyfer twristiaeth a hamdden cynaliadwy o amgylch arfordir Cymru, gan gynnwys:
- datblygu sylfaen dystiolaeth strategol i wella dealltwriaeth o weithgareddau twristiaeth a hamdden cyfredol a phosibl, gan gynnwys eco-dwristiaeth a gweithgareddau eraill sydd ag effaith isel
- cyfleoedd i ddiffinio ardaloedd o gyfle yn y dyfodol ar gyfer twristiaeth a hamdden
er mwyn cefnogi datblygiad cynaliadwy’r sector twristiaeth a hamdden trwy gynllunio morol.
Map o’r sectorau
Edrychwch ar y sector twristiaeth a hamdden ar y Porth Cynllunio Morol.