Mae’r newid yn golygu bod rhaid i berchennog pob cwch pysgota trwyddedig o dan 10m nawr gofnodi popeth y mae’n ei ddal ar bob trip pysgota.

Fe welwch isod ragor o wybodaeth i’ch helpu i ddeall y broses ac i roi gwybod ichi am rai newidiadau gafodd eu gwneud ar ôl clywed barn pysgotwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb.

Manylion y gwasanaeth Cofnodi Dalfeydd

Cofrestru

Os nad ydych chi wedi cael gwahoddiad gennym eto i gofrestru ar y system Cofnodi Dalfeydd, cysylltwch â ni ar unwaith. Os oes angen help i gofrestru arnoch, gallwn eich helpu, ond oherwydd cyfyngiadau COVID-19, ni fedrwn roi help wyneb yn wyneb, ond gallwch gysylltu â ni ar:

Yn Gymraeg: 03000 257920
Yn Saesneg: 03000 258923 neu 03000 258907

Oherwydd natur ein gwaith, mae’n bosibl y cewch eich trosglwyddo i’n gwasanaeth ateb. Gadewch neges ac fe ffoniwn ni chi nôl cyn gynted ag y medrwn.

Beth sy’n rhaid ichi ei gofnodi

Rhaid ichi greu cofnod o bopeth rydych yn ei ddal ar bob trip pysgota.

Byddwn yn gofyn ichi am fanylion y trip a phwysau byw bopeth rydych wedi’i ddal.
Gallwch drosi pwysau’n bwysau byw trwy ei luosi gan ddefnyddio ffactor trosi.

Os byddwch yn dal pysgod â chwota neu sydd â therfyn o ran yr hyn y cewch eu dal, gan gynnwys pysgod o dan y maint glanio lleiaf, rhaid ichi eu cofnodi oni bai bod eithriad i’r rheol.

Ardal ICES

Rhaid creu cofnod gwahanol ar gyfer pob ardal ICES y byddwch yn pysgota ynddi. A rhaid ichi ei chreu o fewn 24 awr ar ôl ichi lanio’r ddalfa. Byddwn yn gofyn ichi am yr ardal a’r hirsgwar ystadegol, lle byddwch wedi dal y rhan fwyaf o’ch dalfa. I weld mapiau o ardaloedd ICES, ewch i https://www.gov.uk/guidance/record-your-catch

Help

Os byddwch chi’n rhoi cofnodion eich dalfeydd dros y ffôn, byddai staff fel arfer ar gael i ddelio â’ch galwad rhwng 9am a 5pm, Llun – Gwener ond oherwydd COVID-19, rydym wedi cwtogi’r gwasanaeth i rhwng 10am a 4pm, Llun – Gwener. Bob amser arall, bydd y ganolfan gysylltu yn cynnig gwasanaeth ateb awtomatig ichi adael manylion eich dalfa.

Rhif y ganolfan gysylltu yw 0300 0203 788

Ni fydd galwadau i rifau 03 yn costio mwy na galwadau i rifau 01 neu 02 a rhaid iddynt gyfrif at unrhyw funudau cynhwysol yn yr un ffordd â galwadau 01 a 02.

Ym mis Ionawr, gwnaethon ni gynnal sesiynau galw heibio mewn lleoedd gwahanol yng Nghymru i ateb eich cwestiynau ac i’ch helpu i gofnodi dalfeydd. Rydym wedi gwrando ar eich ymateb ac rydym wedi gwneud y newidiadau canlynol:

Trefnu bod trydydd parti yn cael cofnodi’ch dalfa

Os nad ydych chi’ch hun yn gallu defnyddio’r ap neu’r wefan Cofnodi Dalfeydd i gofnodi’ch dalfa, ond eich bod am ddefnyddio’r gwasanaeth digidol, gallwch drefnu bod rhywun arall (fel aelod o’ch teulu) yn cael gwneud drosoch chi. Bydd gofyn ichi, fel y capten, drefnu hyn.
https://www.gov.uk/guidance/record-your-catch

Cofnodi pysgod â chwota / heb gwota

Roedd pysgotwyr yn poeni ynghylch gorfod cofnodi pysgod cwota cyn eu glanio. Rydym felly wedi estyn y cyfnod ar gyfer cofnodi pysgod cwota i 24 awr, fel pe baen nhw’n bysgod heb gwota. Mae gofyn ichi gofnodi popeth rydych yn ei ddal o fewn 24 awr ar ôl ei lanio, gan gynnwys pysgod cwota a physgod heb gwota.

Cewyll cadw/storio

Yn ystod y sesiynau hyfforddi, gwnaethon ni ddweud wrthych i beidio â chofnodi’r ddalfa nes ichi ei glanio. Ers hynny rydyn ni wedi gorfod newid y rheol ynghylch pysgod cregyn sy’n cael eu cadw mewn cewyll cadw/storio. Os ydych yn gorffen trip pysgota ac yn rhoi’ch dalfa yn syth i mewn i gawell gadw/storio, rhaid ichi gyflwyno cofnod o’r hyn rydych wedi’i roi yn y gawell. Mae gan y gwasanaeth cofnodi adran i gofnodi pysgod cregyn sy’n cael eu cadw mewn cewyll storio.
Ni fydd angen ichi lenwi cofnod arall pan fyddwch chi’n gwacáu’r gawell storio.

Mae angen inni gael gwybod beth ydych wedi’i ddal ac yn ei roi mewn cawell storio ym mhob trip. Bydd hynny’n ein helpu i ddeall faint o ymdrech oedd ei angen i ddal yr hyn rydych wedi’i ddal ac yn dystiolaeth i’n helpu i gadw stoc iach o bysgod.

Rydym yn gofyn ichi gofnodi’r un wybodaeth ar gofnod eich dalfa ag yr oeddech yn arfer ei rhoi ar y ffurflen MSAR1, nad oes angen ichi ei llenwi mwyach.

Enghraifft

Mae Mr Jones yn dal tua 20kg o gimychiaid ddydd Llun ac yn eu rhoi yn ei gawell storio. Mae’n cofnodi ei ddalfa o 20kg nos Lun.

Mae Mr Jones yn dal tua 30kg o gimychiaid ddydd Mawrth. Mae’n casglu’r hyn ddaliodd ddydd Llun o’i gawell storio ac yn glanio dalfa’r ddau ddiwrnod. Nos Fawrth, mae’n cofnodi’r 30kg ddaliodd ddydd Mawrth. Mae e eisoes wedi cofnodi dalfa dydd Llun felly does dim angen ei chofnodi eto.

De-minimus

Mae’r cwestiwn wedi’i ofyn pam nad oes trothwy de-minimis ar gyfer cofnodi dalfeydd o hyd at 50kg, fel sydd ag ar gyfer cychod dros 10 metr. Rydym yn gofyn i chi gofnodi’r holl bysgod er mwyn inni wybod beth sy’n cael ei ddal. Ar gyfer rhai stociau, mae terfyn yr hyn y cewch ei ddal yn fach iawn ac ni fyddai’n briodol gosod trothwy de-minimis. Ar gyfer cofnodion papur ac electronig cychod dros 10 metr, nid oes gofyn cofnodi dalfa o lai na 50kg o bysgod yn y llyfr log, ond mae’r datganiadau glanio yn cofnodi pwysau’r holl bysgod. Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu nad oes gofyn i gychod o dan 10 metr wneud datganiad glanio.

Dyfais Fonitro ar Gychod Pysgota Trwyddedig o dan 12m

Mae Gweinidogion Cymru’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn 2021 i orfodi cychod pysgota trwyddedig o Brydain sydd o dan 12 metr o hyd sy’n pysgota yn nyfroedd Cymru a phob cwch pysgota o Gymru sydd o dan 12 metr pa le bynnag mae’n pysgota (gan gynnwys y tu allan i ddyfroedd Cymru) i gario dyfais fonitro.

Roedd hi’n fwriad gosod Dyfeisiau Monitro Cychod y glannau (iVMS) rhwng Chwefror a Thachwedd 2020 ond oherwydd COVID-19 a digwyddiadau eraill, rydym wedi gorfod gohirio’r peth. Byddwn nawr yn dechrau eu gosod ym mis Medi 2020 ac yn gorffen y gwaith erbyn mis Awst 2021. Bydd ein contractiwr yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drefnu dyddiad ac amser addas i ffitio’r ddyfais.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen