Dyframaethu
Mae dyframaethu wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol yn y maes cynhyrchu bwyd môr yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn bennaf drwy'r pysgodfeydd cregyn gleision arloesol ar y Fenai yn y Gogledd.
Er mai cregyn gleision a gynhyrchir fwyaf, mae wystrys yn cael eu magu hefyd ar y cyd â physgod asgellog yn y sector dyframaethu mewndirol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targed o ddyblu'r hyn a gynhyrchir drwy ddyframaethu, o 8000 o dunelli i 16,000 o dunelli erbyn 2020, gan ganolbwyntio ar arloesi ac ar feithrin capasiti yn y sector.
Mae'r dolenni isod yn arwain at adnoddau ar gyfer busnesau sydd am fynd i mewn i'r sector neu sy'n gweithredu yng Nghymru eisoes:
Adnoddau Llywodraeth Cymru ar Ddyfranaethu
Strategaeth
Strategaeth y Môr a Physgodfeydd
Grwpiau Rhanddeiliaid
Pwyllgor Cynghori Seafish Cymru
Grŵp Cynghori Llywodraeth Cymru ar Ddyframaethu
Cymorth Academaidd a Gwyddonol
Grŵp Cynghori ar Ddyframaethu
Mae Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu yn un o asianaethau Llywodraeth y DU ac mae'n cynnig cymorth i'r sector pysgodfeydd a dyframaethu.
Canolfan Môr Cymru ym Mhrifysgol Bangor
Cydsyniadau a Thrwyddedau
Ystad y Goron
Ystad y Goron yw'r corff sy'n gyfrifol yn y DU am reoli gwely'r môr hyd at 12 milltir forol o'r lan. Os ydych yn ystyried dyframaethu yn yr ardal hon, bydd angen ichi wneud cais i Ystad y Goron am les i redeg eich busnes ar wely'r môr.
Yr Arolygiaeth Iechyd Pysgod
Yr Arolygiaeth Iechyd Pysgod yw'r corff statudol sy'n archwilio ffermydd pysgod a physgod cregyn mewn perthynas â chlefydau ac iechyd pysgod.
I gael rhagor o wybodaeth am Drwyddedu Morol yng Nghymru, cliciwch yma.
Sylwer: gan ddibynnu lle mae'ch datblygiad dyframaethu, mae'n bosibl y bydd gofyn ichi gael cydsyniad a chaniatâd awdurdodau eraill megis:
- Awdurdodau Lleol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Gweithredwyr Porthladdoedd a Harbyrau
- Perchenogion tir eraill heblaw'r Llywodraeth (Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r dudalen Cydsyniadau a Thrwyddedu Morol.