Benthyciadau banc yw’r brif ffynhonnell fenthyca o hyd i fusnesau bach.

A hwythau’n fath o gyllid dyled tymor hir, mae benthyciadau’n fodd ichi gael benthyg swm o arian gan y banc am gyfnod penodol.                      

Mae’r swm y mae angen ichi ei ad-dalu i’r banc yn dibynnu ar faint a hyd y benthyciad, yn ogystal â’r gyfradd llog berthnasol. Bydd pob banc yn codi llog ar unrhyw fenthyciadau a gewch, ond bydd y telerau a’r pris yn amrywio rhwng darparwyr.             


Mathau o fenthyciadau banc

Gellir rhannu benthyciadau banc yn wahanol fathau ar sail eu cyfnod ad-dalu a’u cyfradd llog. Mae benthyciadau cyfalaf gweithio’n darparu cyllid parhaus er mwyn clirio rhwymedigaethau dyled a threuliau busnes eraill tra bydd eich arian yn glwm mewn stoc ac arian sy’n ddyledus gan ddyledwyr.

Mae benthyciadau cyfalaf gweithio yn wych hefyd am sefyllfaoedd brys, ar fyr rybudd. Mae cardiau credyd yn fodd tebyg o ddarparu cyllid ar unwaith ar gyfer taliadau arian yn y fan a’r lle, er bod y rheini fel rheol yn cynnig cyfradd llog lawer uwch.

Benthyciadau ased sefydlog yw benthyciadau tymor hir y byddech yn eu cael i brynu asedau, fel eiddo neu beiriannau. Mae’r ased ei hun megis ernes i sicrhau bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu, gan olygu y collir yr ased os na chaiff y ddyled ei had-dalu.                                                            

Os ydych yn chwilio am gyllid i dalu am fân amrywiadau misol, fel oediad achlysurol, annisgwyl mewn taliadau anfoneb, gallai gorddrafft banc fod yn ddull cyllido mwy priodol i’ch busnes cymdeithasol.  

I gael gwybod rhagor, trowch at ein canllaw ar orddrafftiau.


Llwythwch ein hawgrymiadau gorau i lawr am ymgeisio am fenthyciadau: