Mae Equity Solutions Ltd yn asiantaeth addysg sy’n cyflenwi athrawon a staff cymorth i ysgolion. Hefyd, mae’n darparu gwasanaethau wedi’u teilwra, fel tiwtora o ansawdd uchel ar gyfer dysgwyr sy’n agored i niwed, yn heriol neu sy’n anodd eu cyrraedd.

Pam?

Cafodd y tri Chyfarwyddwr, sef Michael O’Neill, Lianne Mason a Nerys Owen, eu sbarduno gan awydd i weld tegwch a chwarae teg yn y sector addysg, a chynyddu cyflawniad i bawb. Roedden nhw’n teimlo’n frwd dros dalu cyflog teg i’w staff, codi ffioedd dichonadwy i’w hysgolion partner a sicrhau bod gwasanaethau’n canolbwyntio ar ansawdd yn hytrach nag elw.

Yn wreiddiol, sefydlwyd y busnes fel cwmni cyfyngedig trwy gyfranddaliadau, ond roedd y model cyfreithiol hwn yn eu hatal rhag tendro ar gyfer contractau awdurdodau lleol.

Gan sylweddoli bod angen iddyn nhw ganfod strwythur newydd, ond yn awyddus i ymgorffori’r egwyddorion cymdeithasol a’u hanogodd nhw i sefydlu’r busnes yn y lle cyntaf, aeth y Cyfarwyddwyr at Fusnes Cymdeithasol Cymru am gymorth.

Sut?

Rhoddodd ymgynghorydd Busnes Cymdeithasol Cymru, Tricia Morgan, gyngor i’r Cyfarwyddwyr ynghylch sawl model cyfreithiol fyddai’n cyd-fynd â’u hanghenion. Penderfynon nhw droi’n gwmni cydweithredol gyda strwythur cyfreithiol cwmni cyfyngedig trwy warant.

Ac nid dyna’r unig gymorth a gawsant gan Fusnes Cymdeithasol Cymru. Ar ôl cael cyngor gan arbenigwr marchnata, cynhyrchwyd cynllun marchnata. Ar ôl cael cymorth adnoddau dynol i adolygu a diweddaru contractau cyflogaeth, swydd-ddisgrifiadau, polisïau adnoddau dynol a datblygu llawlyfr i staff, helpwyd y sefydliad i gryfhau ei safle fel cyflogwr teg a moesegol. Ar ben hynny, cafodd y cwmni gymorth i ddatblygu polisi amgylcheddol, cynllun gweithredu a chod eco.

Effaith

Trwy droi’n gwmni cydweithredol, mae Equity Solutions wedi ymrwymo i ddilyn egwyddorion hunangymorth, hunangyfrifoldeb, democratiaeth, cydraddoldeb, tegwch a chydsefyll. Mae wedi cadarnhau ei ymrwymiad i fod yn asiantaeth foesegol sy’n talu cyflog teg ac sy’n annog cydweithwyr i deimlo’n rhan o dîm.

Hefyd, mae wedi sicrhau contract newydd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Gallwn helpu eich busnes hefyd

Llenwch y ffurflen hon a dywedwch wrthym am eich nodau busnes a byddwn yn dweud wrthych sut y gallwn helpu.