Cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd dros gydymffurfiaeth busnes

Defnyddir y term Bwrdd i gwmpasu ystod eang o gyrff llywodraethu, gan gynnwys Cyfarwyd dwyr, Ymddiriedolwyr, y pwyllgor rheoli a'r pwyllgor gweithredol. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am lywodraethu ac arwain y busnes cymdeithasol fel y nodir yn ei reolau cyfreithiol.

Dylai fod gan eich Bwrdd y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad angenrheidiol i reol i ac arwain y busnes cymdeithasol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei genhadaeth ac yn cyflawni'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.

Bydd hyn yn golygu sicrhau:

  • Y penodir aelodau'r Bwrdd yn gyfreithiol
  • Bod holl aelodau'r Bwrdd yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau unigol a chyfunol
  • Y bodlonir yr holl ofynion cydymffurfiaeth busnes perthnasol
  • Goruchwyliaeth gyfreithiol, systematig a phriodol o brosesau dirprwyo i swyddogion, is-bwyllgorau neu staff a gwirfoddolwyr cyflogedig.

Beth allai ddigwydd os nad yw aelodau'r bwrdd yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr holl gydymffurfiaeth busnes berthnasol? Yn gyntaf, mae angen i chi ddeall atebolrwydd.

Atebolrwydd personol: Nid oes gan fusnes anghorfforedig ei hunaniaeth ei hun ac felly mae ei berchenogion yn atebol yn bersonol am ei ddyledion ac am unrhyw gamau cyfreithlon a ddygir yn erbyn y busnes. Mae atebolrwydd yn anghyfyngedig.

Atebolrwydd cyfyngedig: Mae gan fusnes atebolrwydd cyfyngedig ei hunaniaeth gyfreithiol ei hun, ar wahân i’w aelodau ac aelodau ei Fwr dd, sy'n golygu mai dim ond y busnes sy'n atebol i dalu ei ddyledion neu am unrhyw gamau cyfreithlon; mae'r Cyfarwyddwyr a'r aelodau wedi'u hamddiffyn rhag atebolrwydd. Mae amgylchiadau arbennig a phrin pan allai aelodau unigol o'r Bwrdd gael eu hunain yn atebol yn bersonol.

Diben y canllaw hwn yw eich gwneud yn ymwybodol o'ch dyletswyddau cyfreithiol fel aelodau Bwrdd a'ch cefnogi i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio'n gyfreithiol ym mhob ystyr o'r gair. Dylai cyflawni eich rolau a'ch cyfrifoldebau cy freithiol fel aelodau Bwrdd busnes atebolrwydd cyfyngedig sicrhau eich bod yn lleihau unrhyw risg o fod yn atebol yn bersonol am unrhyw ddyledion neu gamau cyfreithiol a ddygir yn eich erbyn.

Mae amryw o feysydd lle gallai atebolrwydd godi wrth redeg busne s fel a ganlyn:

Yn yr adran hon:

Cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd dros gydymffurfiaeth busnes

Penodi Aelodau'r Bwrdd

Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd

 

Eisiau trafod y pwnc ymhellach? Cysylltwch sbwenquiries@wales.coop neu eich Cynghorydd Busnes penodedig.