Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd

Mae angen i'ch Bwrdd gyflawni ei holl gyfrifoldebau cyfreithiol a rheoleiddiol ac mae'n atebol i'w randdeiliaid. Mae aelodau'r Bwrdd yn gyfrifol yn unigol ac ar y cyd am sicrhau bod y busnes cymdeithasol yn cael ei lywodraethu'neffeithiol ac yn gyfrifol. Mae angen i holl aelodau'r Bwrdd fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. 

Dealltwriaeth ar gyfer holl aelodau'r Bwrdd ar eu rolau a'u cyfrifoldebau

Er mwyn cynorthwyo holl aelodau'r Bwrdd i gael gwell dealltwriaeth o'u rolau a'u cyfrifoldebau, dylech ystyried rhoi'r ddogfennaeth ganlynol ar waith:

  • Disgrifiad o rôl aelod o’r bwrdd
  • Cod ymddygiad ar gyfer aelodau’r Bwrdd
  • Rolau swyddi swyddogion unigol – Cadeirydd, trysorydd ac ysgrifennydd
  • Pecyn sefydlu (neu lawlyfr aelodau’r Bwrdd) ar gyfer pob aelod newydd o’r Bwrdd sy'n rhoi gwybodaeth allweddol am y busnes a'u rolau ynddo
  • Polisi Gwrthdaro Buddiannau a Chofrestr Buddiannau Aelodau ’r Bwrdd ( Gweler Cofrestr buddiannau aelodau Bwrdd)

O safbwynt ymarferol, gall y Bwrdd ddewis dirprwyo rhywfaint o'i weithgarwch er mwyn sicrhau bod y busnes cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth.mwyn sicrhau bod y busnes cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth.

Sylwer, er y gall y Bwrdd ddirprwyo ei awdurdod, na all ddirprwyo ei gyfrifoldeb cyffredinol ac yn y pen draw mae'n gyfrifol am bopeth sy'n digwydd mewn busnes.Er mwyn bod yn effeithiol, mae angen i brosesau dirprwyo fod yn gyfreithlon, yn systematig a bod wedi’u goruchwylio’n briodol. Gellir dirprwyo i swyddogion, is-bwyllgorau neu wirfoddolwyr a staff cyflogedig. Mae angen i chi sicrhau:

  • Bod unrhyw brosesau dirprwyo yn unol â'ch dogfen lywodraethol
  • Bod y ddirprwyaeth wedi'i dogfennu'n glir gan nodi cylch gorchwyl penodol (rheolau gweithredu ar yr hyn y gallant ac na allant ei wneud) ar gyfer is-bwyllgorau, a dogfennau awdurdod dirprwyedig priodol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy'n nodi terfynau ariannol lle y bo'n briodol
  • Y sefydlir mecanwaith adrodd clir i'r Bwrdd fonitro ei ddirprwyaethau.

Gweler Cylch gorchwyl pwyllgor enghraifft

Gwybodaeth bellach

Ewch i wefan Busnes Cymdeithasol Cymru ar gyfer Datblygu gallu llywodraethu a'i adran ar 'Ddatblygu Bwrdd Cyfarwyddwyr eich busnes cymdeithasol'.

DS Os byddwch yn defnyddio'r holiadur llywodraethu, neu ran ohono ac eisiau trafod eich atebion, anfonwch e-bost sbwenquiries@wales.coop

 

Yn yr adran hon:

Cyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd dros gydymffurfiaeth busnes

Penodi Aelodau'r Bwrdd

Rolau a chyfrifoldebau aelodau'r Bwrdd