Os ydych yn bwriadu datblygu refeniw, proffidioldeb a safle eich busnes cymdeithasol tra byddwch hefyd yn lleihau ei sylfaen costau, ystyriwch sefydlu consortia gyda busnesau cymdeithasol eraill.

Bydd ffurfio consortiwm o fentrau cymdeithasol yn galluogi pob sefydliad yn y grŵp i weithio gyda’i gilydd i gael hyd i arian a darparu gwasanaethau.


Adeiladu consortia yn y sector menter gymdeithasol 

Gall consortia wella cyfran y farchnad i’w haelodau trwy gydgrynhoi cyllidebau marchnata unigol llai i alluogi ymdrech well wrth farchnata ar y cyd. Hefyd, gallant gynnig capasiti neu arbenigeddau cynhyrchu neu wasanaeth ar y cyd i gwsmeriaid, sy’n diwallu anghenion cwsmeriaid, cyfundrefnau a phrosiectau mwy.  


Manteision consortiwm menter gymdeithasol 

Bydd consortia yn gallu cwblhau contractau mwy a chyflwyno is-gontract i’w haelodau. Gall y grŵp o fentrau cymdeithasol ddarparu mecanwaith ar gyfer datblygu a chyflawni swyddogaethau amrywiol hefyd, fel: 

  • Rheoli prosiect 
  • Systemau ansawdd 
  • Achredu 
  • Cyfrifyddiaeth  
  • Datblygu cynnyrch 

Gall y swyddogaethau hyn gael eu darparu gan staff a gyflogir yn ganolog, neu drwy gontractio’n allanol i aelod sefydliadau neu ffynonellau allanol.


Partneru â menter gymdeithasol arall

Er mwyn i weithio consortia fod yn effeithiol, mae’n bwysig i’r aelodau gael achos cyffredin ac amcanion strategol ar y cyd. Os yw consortiwm am fod yn gynaliadwy, bydd angen iddo ddatblygu model busnes sy’n gweithio.   

Ar ôl i chi sefydlu ymrwymiad a nodi busnes hyfyw, mae’n bryd rhoi cytundebau cyfreithiol ar waith neu ffurfio endid cyfreithiol sy’n ategu llywodraethu, rheolaeth a gweithrediadau’r consortiwm.

I gael mwy o fanylion am ffurfiau cyfreithiol sy’n addas ar gyfer gweithio consortia, ewch i wefan  Co-operatives UK.


Rydym yn cynnig cyfoeth o wybodaeth, cyngor ac arweiniad i berchnogion busnesau cymdeithasol. Isod, rydym wedi rhestru rhai adnoddau mwy defnyddiol ar weithio consortia menter gymdeithasol: