Mae rhyddfreinio cymdeithasol, sy’n debyg iawn i ryddfreinio masnachol, yn cynnwys copïo model busnes cymdeithasol llwyddiannus mewn amgylcheddau newydd.

Mae hyn yn galluogi pobl eraill sydd eisiau cyflawni’r un canlyniadau cadarnhaol yn eu cymunedau eu hunain i wneud hynny heb orfod 'ailddyfeisio’r olwyn'.


Cyfleoedd rhyddfreinio menter gymdeithasol 

Os ydych chi o’r farn fod y model busnes cymdeithasol rydych chi wedi’i ddatblygu yn werth ei gopïo, mae gennych gyfle i gynorthwyo pobl eraill i sicrhau budd cymdeithasol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynyddu effaith gymdeithasol eich menter gymdeithasol eich hun yn sylweddol.  

Gallech hefyd greu cynnyrch neu set o gynhyrchion newydd sy’n haws eu copïo. Mae’r rhain yn nodweddiadol yn cynnwys cynlluniau busnes, llawlyfrau a ffurflenni gweithdrefnau, brandio, dyluniadau cynnyrch, hyfforddiant a chymorth ymgynghoriaeth parhaus.  

 

Mae rhyddfreinio eich busnes cymdeithasol yn strategaeth bwysig o ran arallgyfeirio – defnyddiwch ein canllawiau cynllunio  a  chyllido  i’ch helpu â’r broses.  


Modelau rhyddfreinio ar gyfer menter gymdeithasol 

Mae gwahanol fodelau ar gael ar gyfer cynhyrchu system refeniw a chyfraniad elw o’r strategaeth hon, ond mae hyn oll yn dibynnu ar y cytundeb rhwng busnes cymdeithasol y rhyddfreiniwr a busnes cymdeithasol y sefydliad sydd wedi’i ryddfreinio.  

Yn yr achos gorau, caiff y sefydliad sydd wedi’i ryddfreinio bopeth sydd ei angen arno i gael y buddsoddiad gofynnol a dechrau busnes. Yn y cyfamser, caiff y rhyddfreiniwr ffrwd incwm reolaidd sy’n darparu enillion priodol ar eu buddsoddiad wrth ddatblygu elfennau gwreiddiol y pecyn rhyddfraint.  

Y brif risg i’ch busnes cymdeithasol yw bod y sefydliad sydd wedi’i ryddfreinio yn cael eich brand yn anghywir ac yn effeithio ar eich enw da chi fel sefydliad. Gwnewch yn siŵr fod systemau ansawdd, rhyw fath o fonitro a’r hawl i dynnu’r rhyddfraint yn ôl ar waith wrth lunio’r cytundeb.