Ni waeth pa fath o gyllid dyled a ddewiswch, bydd angen i fenthycwyr sicrhau ernes ar yr arian rydych chi’n ei cael ei fenthyg.

Mae hyn megis yswiriant iddynt, yn yr ystyr y bydd ganddynt ffyrdd eraill o gael eu harian yn ôl os na fyddwch yn gallu ad-dalu’r benthyciad.

Efallai bydd benthycwyr yn cymryd y sicrhad yn erbyn asedau sydd gan y busnes, neu yn erbyn asedau unigol perchennog neu berchenogion y busnes. 

Isod, rydym wedi egluro’r gwahanol ymagweddau at atebolrwydd personol yn fanylach:    

Taliad sefydlog ac arnawf

Taliad yw ased sy’n cael ei wystlo i sicrhau y caiff benthyciad ei ad-dalu. Mae hyn yn rhoi’r hawl cyfreithiol i fenthyciwr gael at yr ased a wystlwyd a chymryd meddiant arno os bydd y busnes yn cael ei ddiddymu. 

Beth yw gwarant bersonol? 

Math o ernes yw gwarant bersonol, sy’n cael ei sicrhau yn erbyn asedau personol perchennog neu berchenogion busnes unigol. Mae’r rhan fwyaf o fenthycwyr yn mynnu’r math hwn o warant, a honno’n aml yn ogystal â thaliad sefydlog neu arnawf.  

 

Atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol 

Term yw 'atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol' a ddefnyddir mewn cytundebau benthyciad sy’n cynnwys dau neu ragor sy’n cael benthyg. Mae’n rhoi’r rhyddid i fenthycwyr hawlio balans cyfan y benthyciad gan y llofnodwyr fel grŵp neu gan bob un ohonynt yn unigol.   

Dyledebau  

Dyledeb yw bond corfforaethol wedi’i gefnogi gan asedau penodol y sawl sy’n cael benthyg. Addewid ysgrifenedig, llofnodedig, diamod, ansicredig ydyw gan y naill barti i’r llall yn ymrwymo’r sawl sy’n ei wneud i dalu swm penodedig. Caiff y sawl sy’n rhoi benthyg ofyn am y swm ar gais, ar ddyddiad sefydlog neu ar ddyddiad canfyddadwy.