Ymgynghorwyr Technegol enwebedig Cynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru

Mae ‘arfer da' yn y sector gweithgareddau antur a hamdden awyr agored yn cynnwys ymgysylltu'n rheolaidd â chynghorydd/ymgynghorydd technegol i gefnogi asesiad y darparwr o risgiau, nodi'r mesurau diogelwch sydd eu hangen gyda threfniadau rheoli i weithredu'r mesurau hyn, a gwybodaeth gadarn am beryglon ac 'arfer da' derbyniol o ran yr hyn sy'n rhesymol ymarferol i sicrhau diogelwch cyfranogwyr. 

Mae Ymgynghorwyr Technegol enwebedig Croeso Cymru wedi'u henwebu ar gyfer eu:

  • lefel profedig o gymhwysedd technegol o fewn y sector gweithgareddau antur
  • gwybodaeth dda am yr amgylchedd(au) lle cynhelir gweithgareddau antur
  • mynediad at, gwybodaeth a dealltwriaeth o reoli gweithgareddau antur
  • dealltwriaeth o brosesau cynllun sicrwydd mewn perthynas â bodloni'r ddeddfwriaeth berthnasol, meini prawf y cynllun a safonau 'arfer da'
  • aeddfedrwydd i wneud penderfyniadau addas a chadarn

Yr Ymgynghorwyr Technegol enwebedig ar gyfer Cynllun Sicrwydd Gweithgareddau Antur Croeso Cymru yw:
Gogledd Cymru:
•    Andy Newton – 07702 905208 - andy@andynewtonmic.org
•    Mike Rosser – 07767 386470 - mikearosser@gmail.com
•    Adam Harmer - 07971189514 - Adam_harmer@hotmail.com

De Cymru: 
•    Gary Evans - 07836 748752 - garyswcro@gmail.com
•    Paul Marshall - 07776 196460 - paul@inspire2adventure.com
​​​​​​​•    Tom Partridge - 07725 172949 - tompartridge@ymail.com

Cymru Gyfan - ar gyfer pob darparwr seiclo a beicio mynydd:             
•    Dan Cook - dancook42@gmail.com