Day out with the kids image

Sianel werthu newydd gyffrous bellach yn fyw ar TXGB

Mae gwefan Day Out With The Kids bellach yn galluogi busnesau twristiaeth Cymru i rannu argaeledd byw a phrisiau gyda phlatfform arweiniol yn y gofod diwrnodau allan i’r teulu. Mae Day Out With The Kids yn gweithio mewn partneriaeth â TXGB er mwyn integreiddio profiad prynu tocynnau ar ei wefan. 

Bydd modd archebu gan bob busnes o Gymru sydd yn gysylltiedig â TXGB, a byddant yn gallu rhannu argaeledd byw a phrisiau ar wefan benodol fydd yn ei gwneud hi’n haws i deuluoedd ddarganfod ‘Pethau i’w Gwneud’. Ymwelir â’r wefan fwy na 35 miliwn o weithiau bob blwyddyn.

Gyda mwy na 8000 o atyniadau ledled y DU yn fyw ar y wefan, mae’r bartneriaeth hon yn caniatáu busnesau Cymru i arddangos eu brand eu hunain ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o gynnyrch eraill.

Mantais arall Day Out With The Kids yw mai’r wefan hon sydd â’r gynulleidfa gymdeithasol fwyaf o safbwynt ‘diwrnodau allan’ yn y DU (maent yn cyrraedd mwy na 10 miliwn o bobl bob mis ar eu tudalen Facebook yn unig) a gallai busnesau cysylltiedig weld eu cynnyrch yn cael ei leoli mewn mwy na 100 o ddarnau cynnwys misol, gan ysbrydoli teuluoedd sydd am archebu (dros 10 miliwn argraffiad y mis ar Google).

Yr oll sydd angen i fusnesau sydd eisoes wedi eu cysylltu ei wneud ydy optio i mewn ar ddangosfwrdd TXGB i fod yn rhan o’r cyfle hwn. Neu os ydych yn newydd i TXGB, gallwch ddarganfod mwy ar wefan TXGB - TXGB | Tourism Exchange GB | Booking Channel Management (Saesneg yn unig). I ddechrau eich cysylltiad, cliciwch y botwm ‘Get Started’.

Mae’r holl fanylion o ran trefnu bod eich busnes yn ymddangos ar restr y gellir archebu ohoni ar Day Out With The Kids drwy TXGB - Day Out With The Kids - TXGB (Saesneg yn unig)

Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu Tourism Exchange Great Britain (TXGB) (Saesneg yn unig) er mwyn sicrhau ei fod ar gael i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Marchnad ddigidol ganolog yw TXGB ar gyfer dosbarthu. Mae TXGB yn galluogi cyflenwyr fel darparwyr llety, teithiau, digwyddiadau ac atyniadau i reoli argaeledd byw, prisiau ac archebion ar draws nifer o sianeli dosbarthu, mewn un lle.

Os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth a chynyddu dosbarthiad eich cynnyrch ledled y DU ac yn fyd-eang, cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.