Gweminar Fasnach Deithio – Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd

4 Mai 2022

Sut gall y Fasnach Deithio cynnig cyfleoedd allweddol i fusnesau dyfu drwy agor i farchnadoedd newydd.

Ar 4 o Fai, fe ymynodd Croeso Cymru â Mike Newman o b2me Tourism Marketing Ltd i ddarparu gweminar hyfforddi am ddim oedd yn

  • amlinellu’r cyfleoedd o weithio gyda'r Fasnach Deithio 
  • a thynnu sylw at dueddiadau sy’n ymddangos wedi COVID.

Roedd y gweminar yn gyfle i fusnesau a hoffai wybod mwy am ddechrau gweithio gyda’r Fasnach Deithio ac hefyd yn gyfle i'r rhai sy'n fwy cyfarwydd â gweithio gyda'r sector i gael gwybodaeth pellach. Roedd gwybodaeth defnyddiol ar gael i:

  • Ddarparwyr llety - o wely a brecwast sy'n cynnig cyfraddau teithwyr cwbl annibynnol i westai mawr;
  • Atyniadau;
  • Gweithredwyr gweithgareddau / golygfeydd / teithiau;
  • Sefydliadau Marchnata Cyrchfannau (DMOs) ac Awdurdodau Lleol;
  • Clybiau golf.

Mae gwybodaeth o'r sesiwn ar gael isod:

Gwahoddir busnesau sy'n ystyried gweithio â’r Fasnach Deithio gwblhau'r arolwg am ddim gan b2me Tourism Marketing. Mae wedi'i anelu at fusnesau sydd efallai ddim wedi ystyried gweithio â’r Fasnach Deithio o'r blaen. Mae wedi ei gynllunio er mwyn eich helpu i asesu’r dull busnes gorau i chi farchnata ar gyfer y Fasnach Deithio.