Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru

Cynllun Gweithredu

Cyflwyniad 

Lansiwyd Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol newydd Cymru ym mis Gorffennaf 2022. Mae’n nodi’r weledigaeth, y genhadaeth a’r amcanion ar gyfer gweithgarwch Digwyddiadau Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Gan gylchdroi o amgylch tri maes sef Pobl, Lle a Phlaned, mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sut y gall digwyddiadau a gyllidir ac a gefnogir gyfrannu at saith nod llesiant Llywodraeth Cymru, a sut y dylent wneud hynny.

GOTTWOOD 2022 copyright Rob Jones

Mae’r Cynllun Gweithredu, a ddatblygwyd yn dilyn y lansiad, yn:

  • manylu sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni, 
  • nodi targedau a blaenoriaethau, a 
  • rhoi mwy o fanylion am y cynllun. 

Datblygwyd y Cynllun mewn cydweithrediad llawn Grŵp Cynghori Diwydiant Digwyddiadau Cymru a’i is-grwpiau. Gan gynnwys cynrychiolwyr y diwydiant digwyddiadau o bob rhan o Gymru, mae’r gwaith ymgysylltu yn sicrhau dull gweithredu dan arweiniad y diwydiant o ran y rhaglen sy’n datblygu.  


Astudiaethau achos

TAFWYL, MENTER CAERDYDD

Gŵyl gerddoriaeth a diwylliant flynyddol a gynhelir yng Nghaerdydd

Mae Tafwyl yn ŵyl ddiwylliannol Gymreig rhad ac am ddim sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn yng nghanol Caerdydd i ddathlu iaith, diwylliant a cherddoriaeth Gymreig. Mae’r ŵyl, sy’n cael ei rheoli gan Fenter Caerdydd ac sydd bellach yn ei 17eg flwyddyn, hefyd yn croesawu ac yn hyrwyddo busnesau lleol, elusennau, a stondinau bwyd stryd, gan weithio gyda’r gymuned leol a phartneriaid i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli a chyfle i bawb brofi’r Gymraeg o fewn amgylchedd hwyliog.

Tair elfen allweddol gan Tafwyl:

Mae bod yn berthnasol yn helpu i annog cynulleidfaoedd newydd i gael borfiad o iaith a diwylliant Cymru. Mae cael llu o bartneriaid a busnesau lleol yn helpu penderfyny amserlen newydd bob blwyddyn ac nid yw’r digwyddiad yn ofni rhoi cynnig ar bethau newydd. O arddangos artistiaid dwyieithog newydd i roi llwyfan er mwyn i blant ysgol lleol berfformio, mae Tafwyl yn annog pawb i flasu diwylliant a’r iaith Gymraeg, boed yn siarad yr iaith ai peidio. Gallai digwyddiadau eraill fabwysiadu dull tebyg wrth gymryd camau bach i arddangos diwylliant a’r iaith Gymraeg – drwy arddangos artistiaid dwyieithog neu lleoliadau eiconig Cymreig er enghraifft.

Mae Tafwyl yn gyfle gwych i bobl yng Nghymru, y tu allan i Gymru, y rhai sy’n siarad Cymraeg, y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg, i ddod i ganol y ddinas i fwynhau’r ŵyl. I ddysgu am yr iaith, diwylliant a’r amgylchedd gwych sydd gennym ni yn Tafwyl.” Menter Caerdydd.

Mae Tafwyl wedi tyfu o fod yn ddigwyddiad ar raddfa fach mewn tafarn leol i ddenu dros 38,000 o ymwelwyr yn bersonol a channoedd o filoedd o bobl ar-lein. Sut? Mae Menter Caerdydd, y mudiad sy’n rheoli Tafwyl, yn dweud mai brand cryf a phartneriaethau cyfryngau sy’n gyfrifol am hyn.

Creodd Tafwyl ei frand ei hun - gan gynnwys logo beiddgar ar ffurf teipograffeg ac maent yn hyrwyddo ei hun ar ei sianeli cyfryngau cymdeithasol. Ond er mwyn tyfu, roedd angen cefnogaeth gan lwyfannau mwy y tu allan i’r digwyddiad ei hun. Roedd cael cefnogaeth y cyfryngau lleol, BBC Radio Cymru ac S4C yn hollbwysig i helpu’r brand bach i dyfu ac i apelio at ymwelwyr a chynulleidfaoedd newydd. Gwnaeth yr ŵyl hyn drwy gynnig cynnwys hawliau ecsgliwsif i’r darlledwyr ac yn ystod y pandemig Covid-19, Tafwyl oedd yr ŵyl gyntaf o’i fath i fynd yn gyfan gwbl ddigidol, gan dyfu ei ddilyniant ar-lein felly – ac hefyd digwyddiad prawf cyntaf Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Agorodd hyn gynulleidfaoedd newydd a thyfu’r brand ymhellach gydag ymwelwyr tu allan i Gymru sy’n parhau i ymgysylltu â Tafwyl ar-lein.

Yn sicr fe wnaeth ein gwthio i roi cynnig ar bethau na fyddem wedi rhoi cynnig arnynt fel arall. Ac mae’r elfen ddigidol yna, dwi’n meddwl yn rhywbeth fydd yn aros i’r dyfodol oherwydd ein bod ni’n gwybod bod yna gynulleidfa a farchnad i Tafwyl ym mhob rhan o Gymru, ym mhob rhan o Brydain ac ym mhob rhan o’r byd.” Menter Caerdydd.

Dywed Tafwyl fod ei ymgysylltiad â’r gymuned leol a gwirfoddolwyr yn ganlyniad o berthnasoedd lleol cryf a phartneriaethau gyda sefydliadau a busnesau, gan weithio gyda dros 40 o bartneriaid i ddenu a recriwtio dros 100 o wirfoddolwyr bob blwyddyn.

Mae’r trefnwyr yn pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu drwy gydol y flwyddyn ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr – nid dim ond cyn ac yn ystod yr ŵyl bob haf. Mae’n nhw’n gwneud hyn drwy gynnal digwyddiadau cymunedol agored fel boreau coffi, digwyddiadau ysgol, rhieni a babanod – gan ddenu mynychwyr presennol Tafwyl sydd eisiau parhau i fod yn rhan o’r ŵyl, yn ogystal â phobl newydd sydd wedyn yn cael y cyfle i fod yn rhan o Tafwyl fel gwirfoddolwr.

Yn y cyfnod cyn yr ŵyl, maent yn darparu sesiynau briffio - gan ddod â'r rhai sydd â diddordeb at eu gilydd i siarad am yr amserlen, y rhaglen a gwahanol rolau a chyfrifoldebau, gan baru pobl â'r cyfle gorau. Maent hefyd yn cadw mewn cysylltiad â gwirfoddolwyr yn syth ar ôl y digwyddiad, gan rannu straeon llwyddiant a digwyddiadau eraill sydd yn y calendr gyda nhw, er mwyn parhau i ymgysylltu ar ôl yr ŵyl.

Mae ein gwirfoddolwyr mor bwysig ac rydym yn sicrhau ein bod yn cynnal digwyddiadau cyn Tafwyl i’w helpu, rydym yn cadw mewn cysylltiad â nhw ar ôl y digwyddiad ac rydym yn cynnal amrywiaeth o sesiynau briffio gyda nhw i sicrhau eu bod yn barod ac yn barod ar gyfer y penwythnos.” Menter Caerdydd.

Pencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd a Rowndiau Terfynol Sbrint y Traeth

Cynhaliwyd Pencampwriaethau Rhwyfo Arfordirol y Byd a Rowndiau Terfynol Sbrint y Traeth am y tro cyntaf yng Nghymru ar hyd traeth a harbwr Llanusyllt, sydd wedi’u lleoli ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro, yn ystod mis Hydref 2022 a denodd timau ac ymwelwyr o mor bell i ffwrdd â Seland Newydd a Japan. Helpodd y digwyddiad i dyfu enw da Gorllewin Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr a lleoliad o safon fyd-eang ar gyfer rhwyfo arfordirol drwy gydol y flwyddyn.

Tair elfen allweddol o'r digwyddiad:

Rhoddodd trefnwyr y digwyddiad – World Rowing – a’u partneriaid lleol a chenedlaethol, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gynaliadwyedd wrth wraidd y digwyddiad a dyma’r digwyddiad rhwyfo cyntaf o’i fath i ennill ardystiad IS0 20121 – nod ansawdd rhyngwladol ar gyfer digwyddiadau sy'n dangos dealltwriaeth o gynaliadwyedd, cynllunio a gweithredu.

Sicrhaodd y cyllidwyr y byddai’r digwyddiad yn ymrwymo i ffactorau cynaliadwyedd drwy nodi, yn eu cynnig ariannu, fod arian yn amodol ar weithio tuag at y safon ISO, gan sicrhau cefnogaeth yr holl bartneriaid a threfnwyr o’r diwrnod cyntaf.
Bu trefnwyr y digwyddiad yn gweithio gyda phartneriaid lleol i gefnogi cyflwyno cynllun gweithredu cynaliadwyedd pwrpasol. Fel partner allweddol, roedd cyfraniad Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’r ymdrech yn golygu eu bod yn secondio aelod o staff i weithio’n llawn amser fel Rheolwr Cynaliadwyedd ar gyfer y digwyddiad. Roedd hyn yn ffordd amhrisiadwy ac ymarferol o sicrhau bod gwybodaeth leol yn cael ei rhannu'n effeithiol i gefnogi'r cynllun cynaliadwyedd.

Mae'r digwyddiad hwn, a chyfraniad y partneriaid, bellach yn cael eu hystyried fel rhai sy'n dangos arfer da gyda digwyddiadau byd-eang eraill sy'n datblygu eu hymagwedd at gynaliadwyedd.

Roedd yn bwysig dangos y gallai’r math hwn o ddigwyddiad gynnal safonau cynaliadwyedd. Roedd yr ardystiad ISO ar gael felly fe benderfynon ni wneud ein cyllid ar gyfer y digwyddiad yn amodol ar y ffaith bod y digwyddiad wedi gweithio tuag at yr ardystiad hwnnw.” - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r digwyddiad yn ymfalchïo mewn gwreiddio yn y gymuned a chreu cyfleoedd i bawb gymryd rhan. Gwnaeth trefnwyr y digwyddiad hyn drwy greu dau grŵp cynllunio allweddol - Grŵp Llywio i helpu i oruchwylio cyfeiriad cyffredinol y digwyddiad (a oedd yn cynnwys cyllidwyr a rhanddeiliaid allweddol) a Phwyllgor Cynllunio, a oedd yn cynnwys sefydliadau lleol, busnesau ac elusennau a gymerodd fwy o rôl gweithredu.

Cynhaliodd trefnwyr y digwyddiad gyfarfodydd agored yn neuadd y dref yn gynnar, gan wahodd trigolion a busnesau lleol i ddod i deall mwy am y digwyddiad a chyfleoedd i gymryd rhan. Buont yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Saundersfoot Connect i gyfathrebu ac ymgysylltu â phobl a wirfoddolodd ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau eraill.

Ar ôl ymgorffori yn y gymuned leol a marchnata cyfleoedd gwirfoddoli trwy sianeli partner lleol o’r cam cynnar, rhagorodd y digwyddiad ar ei darged recriwtio gwirfoddolwyr o 200 a elwir yn ‘wave makers’, gyda dros 250 o bobl yn cofrestru i wirfoddoli. Crëwyd pecyn hyfforddiant o gymorth corfforol a digidol ar gyfer gwirfoddolwyr, gan gynnwys hyfforddiant ymarferol a system ‘cyfaill’ i sicrhau bod gwirfoddolwyr, yn lleol ac ymhellach i ffwrdd, yn teimlo’n gyfforddus, yn barod ac yn gyffrous ar gyfer eu rôl yn y digwyddiad.

Croesawodd y gymuned leol y digwyddiad yn llwyr, roedden nhw’n gyffrous iawn amdano. Roedd dros 50% o’n gwirfoddolwyr yn dod o Llanusyllt a’r cyffiniau.” Rachel Dulai, Rheolwr Digwyddiad.

Dywedodd ffrind i mi wrthyf am y digwyddiad ac awgrymodd y gallwn gofrestru i wirfoddoli. Doeddwn i erioed wedi bod yn rhan o unrhyw beth o’r blaen felly roeddwn i’n nerfus ar y dechrau, ond doedd dim bai ar y sefydliad a’r ffordd yr oeddem yn cefnogi ni. Roeddwn i mor falch o fod yn rhan ohono a byddwn wrth fy modd yn gwirfoddoli eto yn y dyfodol.” Gwirfoddolwr o Sir Benfro.

Cynhaliwyd y digwyddiad ar hyd arfordir Sir Benfro a’r parc cenedlaethol ac roedd wedi’i leoli ar Lwybr Arfordir Cymru – gan arddangos tirwedd Cymru i gynulleidfaoedd yng Nghymru ac i’r rhai oedd yn ymweld â’r digwyddiad ac yn gwylio ar-lein.

I’r trefnwyr a’r partneriaid dan sylw, roedd yn bwysig arddangos y cyfle a ddaeth yn sgil y digwyddiad i bob sector, gan gynnwys twristiaeth a lletygarwch. Fel rhan o’r ymgysylltu cymunedol cynnar, rhoddwyd gwybodaeth i ddarparwyr llety a lletygarwch iddynt ddefnyddio’r digwyddiad yn eu marchnata eu hunain. Gydag ymwelwyr yn dod o dramor, bu’r digwyddiad yn gymorth i lawer o ymwelwyr archwilio Cymru am y tro cyntaf, gyda llawer o athletwyr a chefnogwyr yn defnyddio’r amser sbar i deithio’n lleol ac i rhannau arall o Gymru.

Dydw i erioed wedi bod i Gymru ond byddaf sicr yn dod yn ôl - roedd amodau’r gystadleuaeth yn union yr hyn yr ydych chi eisiau i gystadlu ac mae’r golygfeydd yn syfrdanol.” Ben Mason, o Glwb Rhwyfo Nelson yn Seland Newydd