Cyfleoedd i fynychu arddangosfeydd a gweithdai y Diwydiant Teithio 2022 – 2023

Ar hyn o bryd mae Croeso Cymru yn cynllunio rhaglen digwyddiadau Busnes i Fusnes y Diwydiant Teithio (B2B) ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-2023.  Bydd cyfuniad o arddangosfeydd a gweithdai.

Rydym yn trafod manylion terfynol gan gynnwys gofod a chostau gyda threfnwyr y digwyddiadau.  

I gymryd rhan mae'n rhaid i chi fod â diddordeb a gallu contractio, gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio a chynnig comisiwn/ cyfraddau net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety gael eu graddio naill ai gan Croeso Cymru neu AA. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.

Mae'r digwyddiadau hyn yn arbennig o addas ar gyfer y canlynol: 

  • Gwestai / llety 
  • Atyniadau
  • Cwmnïau teithiau / gweithgareddau
  • DMOs ac awdurdodau lleol
  • Clybiau golff

Mae'r digwyddiadau arfaethedig yn cynnwys:

International Golf Travel Market (IGTM), Rhufain: 17-20 Hydref 2022
Dyma'r prif ddigwyddiad ar gyfer y diwydiant teithio golff. Mae dros 500 o gyflenwyr twristiaeth golff yn ymuno â 350 o brynwyr wedi cymhwyso ymlaen llaw a 50+ o'r wasg ryngwladol am bedwar diwrnod o apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw, cyfleoedd rhwydweithio a diweddariadau am y diwydiant. 

World Travel Market (WTM) Llundain: 7-9 Tachwedd 2022
Wedi'i gynnal bob blwyddyn yn ExCeL, WTM yw'r prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio. Mae'n ddigwyddiad busnes-i-fusnes bywiog sy'n cyflwyno amrywiaeth eang o gyrchfannau a sectorau diwydiant i weithwyr teithio proffesiynol yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae dros 51,000 o uwch weithwyr proffesiynol yn y diwydiant teithio, gweinidogion y llywodraeth a’r wasg ryngwladol yn ymweld i rwydweithio, trafod a darganfod barn a thueddiadau diweddaraf y diwydiant yn WTM. Mae WTM yn cynhyrchu mwy na £2.5 biliwn o gontractau'r diwydiant teithio.

Britain & Ireland Marketplace (BIM), Llundain: Ionawr 2023
Cynhelir y gweithdy hwn ym mis Ionawr ac fe'i trefnir gan ETOA (European Tour Operators) gyda hyd at 32 o benodiadau wedi'u trefnu ymlaen llaw.  Bydd y prynwyr sy'n bresennol 
   - y rhai sydd eisoes yn gwerthu'r DU ac Iwerddon ac yn chwilio am gynhyrchion newydd i'w gwerthu
   - wedi'u lleoli yn y DU (neu o leiaf mae ganddynt swyddfeydd yma) ond yn gwerthu i farchnadoedd rhyngwladol. 
Bydd gweithredwyr allanol hefyd o Ewrop a Gogledd America. 

ITB, Berlin: 8-12 Mawrth 2023
ITB Berlin yw ffair fasnach dwristiaeth fwyaf y byd, a gynhelir ym mis Mawrth. Gyda thua 10,000 o arddangoswyr yn cynrychioli pob sector o'r diwydiant twristiaeth. Mae'r arddangosfa'n para 5 diwrnod ac mae 3 diwrnod ar gyfer ymwelwyr masnach yn unig. Mae'n denu dros 180,000 o ymwelwyr. Daw tua 25% o'r ymwelwyr masnach o wledydd ar wahân i'r Almaen (rhan fawr o farchnadoedd newydd dwyrain Ewrop).

British Tourism & Travel Show (BTTS) Birmingham: 22-23 Mawrth 2023    
Dyma brif arddangosfa twristiaeth ddomestig y DU ac mae'n dwyn ynghyd hyd at 300 o arddangoswyr a hyd at 3000 o brynwyr wedi'u targedu.

Bydd cyhoeddiad am ddigwyddiadau VB yn dilyn cyn bo hir.

I fynegi eich diddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o'r digwyddiadau hyn, neu oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at dîm y Diwydiant Teithio: traveltradewales@llyw.cymru.  

Noder 

  • nid yw hyn yn gwarantu eich lle yn y digwyddiad.  
  • Bydd costau i gyflenwyr yn amodol ar ddull y trefnwyr perthnasol. Mae rhai trefnwyr yn codi tâl uniongyrchol, i eraill bydd Croeso Cymru yn gwerthu lle(oedd) ar – manylion costau i ddilyn unwaith y byddwch yn mynegi diddordeb.