The roost

The Roost - Merthyr Tudful

Cynaliadwy i'r bôn

Safle cabanau hunanarlwyo bach sy’n swatio mewn man tawel yw The Roost Merthyr Tudful, lleoliad perffaith sy’n ddelfrydol ar gyfer beicwyr mynydd, cerddwyr, seiclwyr ac unrhyw un sy’n mwynhau’r awyr agored. Gan fod cynaliadwyedd wrth wraidd y fenter, maent yn edrych yn gyson ar ffyrdd o leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

The roost water

Dŵr

Mae The Roost yn ymroddedig i gynaeafu dŵr glaw, yn casglu ac yn storio dŵr glaw ym Merthyr Tudful, i'w ailddefnyddio ym mhob rhan o'r safle. Defnyddir y dŵr sy'n cael ei storio mewn dwy gasgen ddŵr fawr i dynnu dŵr y toiledau, golchi beiciau a dyfrio'r ardd, gan arbed cryn dipyn o ddŵr yfed. 

Os bydd y tanciau'n mynd yn isel, mae eu system ddŵr wrth gefn yn newid i ddefnyddio'r prif gyflenwad, felly ni fyddant byth heb ddŵr. Yn yr ystafelloedd cawod mae'r cawodydd a'r tapiau'n gweithio gyda botwm gwthio fel bod llai o ddŵr yn cael ei wastraffu. Tynnir dŵr y toiledau gyda lefel isel o ddŵr ac maent yn defnyddio dŵr glaw hefyd.

I ddysgu sut y gallwch wneud newidiadau o fewn eich busnes chi - lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Dŵr.
 

The roost - waste

Gwastraff

Yn The Roost, ni welwch sbyngau na photeli plastig. Yn wir, mae eu holl gynhyrchion glanhau/golchi dillad, golchi dwylo a siampŵ/sebon corff yn ecogyfeillgar ac yn rhai a ail-lenwir, sy'n cyfyngu ar eu defnydd o blastig untro a chludiant nwyddau.
Maent hefyd yn ailgylchu cymaint ag y bo modd ac yn annog gwesteion i wneud yr un fath, gyda chasgliadau ar wahân ar gyfer cardbord, gwydr, plastig a thuniau, a bwyd.

Hoffech chi ddysgu mwy am droi eich gwastraff yn rhywbeth cadarnhaol? Lawrlwythwch ein Pecyn Adnoddau Gwastraff.
 

The roost - energy

Ynni

Gyda gwesteion yn mynd ac yn dod bob dydd, mae hyd yn oed yr ystafelloedd cawod yn arbed ynni. Gyda goleuadau LED a ffannau echdynnu sy'n gweithio gyda synwyryddion symud, does dim switshis felly does dim trydan yn cael ei wastraffu. Mae'r gwresogydd hefyd yn diffodd os caiff ei adael ymlaen. Mae'r cabanau ar y safle wedi'u hinswleiddio'n dda ac yn defnyddio goleuadau LED a gwresogyddion y gellir eu rheoli drwy Wi-Fi. Ond nid dyna'r cyfan. 

Mae The Roost wedi gosod paneli solar mewn amryw le o amgylch y safle, a batris storio er mwyn gwrthbwyso rhywfaint o'r defnydd o drydan. Maent hefyd wedi gosod dau bwynt gwefru cerbydau trydan er mwyn i westeion gael gwefru eu cerbydau ar y safle.

Ydy hyn wedi rhoi syniad i chi o sut y gallwch chi newid y ffordd rydych chi'n defnyddio ynni? Edrychwch ar ein Pecyn Adnoddau Ynni.
 

The roost - travel

Teithio

Mae The Roost yn lle perffaith i feicwyr mynydd, heicwyr, seiclwyr a'r rhai sy'n mwynhau'r awyr agored. Er ei fod yn swatio mewn llecyn tawel ym Merthyr Tudful, mae'n lle hawdd cyrraedd iddo ar drafnidiaeth gyhoeddus (dim ond pum munud o'r orsaf drenau) - ac anogir hynny’n gryf. Gyda digon o le i storio beiciau, llefydd golchi a mwy, mae'r tîm eisiau i ymwelwyr fod mor gynaliadwy â phosib wrth deithio o gwmpas yr ardal. 

Awydd dysgu sut y gall hyrwyddo teithio cynaliadwy helpu eich busnes? Darllenwch ein Pecyn Adnoddau Teithio.
 

Cynaliadwyedd gyda Kath and Kris Morgans, The Roost (Saesneg yn Unig)
Cynaliadwyedd gyda Kath and Kris Morgans, The Roost (Saesneg yn Unig)

Rhan Un

Cynaliadwyedd gyda Kath and Kris Morgans, The Roost (Saesneg yn Unig)
Cynaliadwyedd gyda Kath and Kris Morgans, The Roost (Saesneg yn Unig)

Rhan Dau