Y diweddaraf am yr ymgyrchoedd
Rydym yn parhau â'n hymgyrch Blwyddyn Awyr Agored Cymru ar draws pob marchnad. Dyma grynodeb o'r prif ddigwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal dros yr ychydig wythnosau nesaf.
Y Deyrnas Unedig
- Yn Llundain, byddwn yn hyrwyddo Cymru ar y sgrin fawr yn Waterloo am wythnos, gan ddechrau ar 24 Chwefror. Byddwn hefyd yn hyrwyddo Cymru ar sgriniau yng ngorsaf Liverpool Street a gorsaf Victoria, lle bydd rhannau o'n prif hysbyseb deledu yn cael eu defnyddio i ysbrydoli cymudwyr a’u hannog i drefnu gwyliau yng Nghymru.
- Bydd Cymru yn cael ei hyrwyddo ar glawr y Metro ar 25 Chwefror, gyda hysbysebion golygyddol yn ymddangos yn yr Evening Standard, yn ogystal â phartneriaeth yn y wasg â'r Times. Bydd y rhain yn cyd-daro â Dydd Gŵyl Dewi ac Wythnos Cymru yn Llundain.
- Gobeithio eich bod wedi gweld yr ymgyrch deledu a’r fideo ar alw am Gymru, sy'n rhedeg ers mis Ionawr. Cadwch lygad amdanynt ar Channel 4 ar 1 Mawrth.
- O ran yr ochr ddigidol, byddwn yn defnyddio rhagor ar ddulliau targedu daearyddol ddiwedd mis Chwefror, a fydd yn digwydd ar yr un pryd ag Wythnos Cymru yn Llundain. Rydym hefyd yn ail-lansio ein hysbysebion YouTube yn Llundain Fwyaf er mwyn manteisio ar ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn digwydd ar hyd a lled y ddinas yn ystod yr wythnos honno.
Yng Nghymru
-
Dros yr hydref 2019 a’r flwyddyn newydd 2020 roeddem am ychwanegu at ein hymgyrch flaenorol yng Nghymru a pharhau gyda’r amlygrwydd a’r gydnabyddiaeth a gaiff Gymru bellach.
-
Er mwyn ysbrydoli cynulleidfaoedd yng Nghymru, dewiswyd pump o bobl leol a brwdfrydig ledled Cymru gan ddatblygu pecynnau i ddangos eu brwdfrydedd a’u cariad dros Gymru. Mae’r pump o becynnau yn cynnwys erthygl ar croesocymru.com, ffilm a phostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
-
Cafodd y pecynnau eu cefnogi gan ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol y talwyd amdani i sbarduno’r sylw a chysylltu gyda cynulleidfa o ddefnyddwyr yng Nghymru. Eu nod yw:
-
cynyddu teithiau dydd a gwyliau byr yng Nghymru yn ystod y cyfnod canolig
-
dathlu, creu momentwm a chreu ymwybyddaieth yn ystod y Flwyddyn Awyr Agored.
-
-
Roedd dau gam i’r ymgyrch: canol Tachwedd – Rhagfyr a Ionawr – Chwefror
- Yn gynharach ym mis Ionawr, i lansio’r Flwyddyn Awyr Agored i gynulleidfaoedd yng Nghymru, fe wnaethom gynnig cyfle i 80 o bobl lwcus fynd i gig unigryw mewn ogof lechi ar 29 Chwefror. Crëwyd raffl, a gafodd ei hyrwyddo drwy ein sianeli cymdeithasol, er mwyn i bobl allu ennill tocynnau i’r gig hwn gydag Alffa, Bryde a Kizzy Crawford. Mae’n digwydd yn Bounce Below ym Mlaenau Ffestiniog ac mae’n cyfuno elfennau o fod dan do ag elfennau o fod yn yr awyr agored. Mae’r gig hefyd yn cyfuno tir unigryw Cymru â chymysgedd o synau traddodiadol a modern, gan gyd-fynd â’r holl sylw y mae sîn gerddoriaeth Cymru yn ei gael yn y cyfryngau ar hyn o bryd. Y nod yw creu cysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol i Gymru ac arddangos amrywiaeth o brofiadau newydd dros y flwyddyn nesaf.
Iwerddon
- Mae ymgyrch dwristiaeth Iwerddon yn ceisio codi ymwybyddiaeth o Gymru ac annog pobl i’w hystyried yn gyrchfan wyliau ar gyfer gwanwyn a haf 2020 (gwyliau byr 1–3 noson).
- Bydd yr ymgyrch yn rhedeg tan 31 Mawrth 2020 ac mae'n canolbwyntio ar bobl yn y grŵp ABC1 a chynulleidfaoedd â diddordebau penodol:
- beicio a beicio mynydd
- cerdded a heicio
- gwyliau a digwyddiadau
- treftadaeth a hanes
- Lansiwyd elfen ddigidol yr ymgyrch drwy gyhoeddi prif fideo Blwyddyn Awyr Agored Cymru ar draws YouTube a sianeli cymdeithasol.
- Lansiwyd yr ymgyrch ar y teledu gyda chic gyntaf y gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon ar 8 Chwefror. Roedd brand Cymru hefyd i’w weld ar y sgriniau ar ochrau’r cae yn ystod y gêm honno. Bydd ymgyrch ar y cyd â’r fferis yn dechrau o fis Ebrill ymlaen.
Yr Almaen
- Bydd Croeso Cymru yn mynd i ITB Berlin rhwng 4 a 8 Mawrth – un o sioeau mwyaf y byd yn y diwydiant teithio. Caiff yr arddangosfa dwristiaeth genedlaethol hon ei chynnal yn y Messe, Berlin.
- Am yr 50 mlynedd ddiwethaf, mae ITB Berlin wedi cynnig marchnad fyd-eang, safle rhwydweithio a man cyfarfod ble y gall cyrchfannau twristiaeth, atyniadau, cwmnïau gwyliau, safleoedd archebu ar-lein, gwestai, cwmnïau hedfan, meysydd awyr, cwmnïau mordeithio a nifer o ddarparwyr gwasanaethau eraill ar draws 180 o wledydd gyflwyno eu cynnyrch a'u gwasanaethau.
- Ar y stondin gyda ni eleni bydd Cadw, Go North Wales a phartneriaid a fydd yn cynrychioli Ffordd Cymru.
- Rydym hefyd yn cynnal amryw o ymgyrchoedd partneriaeth allweddol rhwng nawr a mis Ebrill, gyda:
- P&O Ferries
- SportScheck
- TUI Wolters Reisen
- DERTOUR
- Wikinger Reisen
- Boundless Resisen
- Yn ogystal â’n hymgyrch ddigidol, sy’n cynnwys fideo ar alw a hysbysebion arddangos digidol, rydym hefyd yn gweithio ar hysbysebion golygyddol mewn cyhoeddiadau a chylchgronau teithio/ffordd o fyw a chylchgronau bwyd a diod yn yr Almaen. Dyma grynodeb o’r hyn sydd wedi ei drefnu:
- Cylchgrawn ADAC (rhifyn mis Ionawr/Chwefror) –cylchgrawn yn yr Almaen sy’n debyg i gylchgrawn Automobile Association, ac mae gennym dudalen ddwbl ynddo yn hysbysebu Ffordd Cymru.
- Geo Saison (rhifyn mis Chwefror) – cylchgrawn ym mhen uchaf y farchnad ar deithio a ffordd o fyw, ac mae gennym dudalen ynddo yn hysbysebu Blwyddyn Awyr Agored Cymru
- Cylchgrawn Outdoor (rhifyn mis Chwefror) – tudalen yn hysbysebu Blwyddyn Awyr Agored Cymru
- Cylchgrawn BEEF (rhifyn mis Mawrth) – tudalen ddwbl ar fwyd a diod yng Nghymru
- Erthygl arbennig ar deithio yng nghylchgrawn Schoner Wohnen (rhifyn mis Mai) – tudalen ddwbl yn y cylchgrawn teithio a ffordd o fyw hwn