Myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael eu derbyn ar y Rhaglen Cyflymu Twf
Bydd dau entrepreneur o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru dan nawdd Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan y Consortia ar gyfer Rhagori (sy’n cynnwys Winning Pitch ac Impact Innovation) i gynnig cymorth arbenigol pwrpasol i fusnesau sy’n awyddus i ehangu’n gyflymach o lawer a gwireddu’u potensial mawr i dyfu. Yn dilyn cyngor gan Ganolfan Entrepreneuriaeth...