Mae sawl elfen ynghlwm wrth y broses o greu amgylchedd dysgu egnïol. Un o ddarnau y jig-so addysgol yw amgylchynu disgyblion ysgol gydag adnoddau gweledol ar gyfer eu hastudiaethau.

Mae Daydream Education yn gwmni sydd wedi’i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mae’n arbenigo yn yr elfen hollbwysig hon o’r ystafell ddosbarth fodern. Mae’r cwmni yn dylunio posteri a ddefnyddir gan athrawon yn fyd-eang er mwyn helpu disgyblion i ddeall pynciau allweddol. Yn ogystal, mae’r cwmni yn sicrhau ei fod yn ymgyfarwyddo â’r newidiadau technolegol diweddaraf gan ddarparu deunydd ar-lein sy’n cyd-fynd â’r cynnyrch ffisegol y mae’n ei ddylunio a’i gynhyrchu. 

Mae cwmni Daydream Education wedi cael cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Mae’r rhaglen hon yn darparu cefnogaeth sydd wedi’i thargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sy’n datblygu. Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

 

Dyma Chris Malcolm o Daydream Education yn esbonio athroniaeth y cwmni, sut y mae’r Rhaglen Cyflymu Twf wedi cefnogi twf y cwmni, yn ogystal â rhoi cipolwg i’w waith.

 

 

Soniwch wrthym am Daydream Education
Mae addysg yn ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud yma, fel y mae’r enw yn ei awgrymu! Rydyn ni’n gyhoeddwyr adnoddau addysgol ac yn arweinwyr sefydledig yn ein maes. Mae ein hystod o adnoddau yn cwmpasu 25 o bynciau ac rydyn ni’n cynnig dros 1,000 o deitlau yn ein catalog. Yn ei hanfod, mae’r busnes yn darparu posteri i ysgolion a sefydliadau addysgol mewn gwledydd Saesneg eu hiaith ledled y byd. Mae’r posteri hyn yn cynorthwyo dysgwyr a’u hathrawon ac maen nhw’n hanfodol ar gyfer creu amgylchedd dysgu cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth.

Rydyn ni wedi ein lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac rydyn ni’n fusnes teuluol. Sefydlodd fy mam, Kate, y cwmni dros 25 o flynyddoedd yn ôl. Roedd mam yn athrawes fathemateg felly roedd hi’n gwybod am bwysigrwydd adnoddau gweledol i brofiadau dysgwyr wrth iddynt ddilyn eu taith drwy’r system addysg. Rwyf i wedi bod yn rhedeg y busnes ers dyddiau cynnar ei sefydlu. Rydyn ni bellach yn cyflogi 15 o bobl ac rydyn ni’n cydweithio â gwahanol ymgynghorwyr addysgol, athrawon a myfyrwyr i greu deunyddiau dysgu gwych. 

Byddwn yn dweud ein bod yn fusnes ystwyth sy’n ymateb gan ein bod yn newid o hyd ac yn llwyddo i adlewyrchu tueddiadau’r byd dysgu a’r dechnoleg sy’n amgylchynu addysg. Rwy’n credu mai dyma yw un o’r rhesymau dros ein llwyddiant. Rydyn ni’n sicrhau ein bod yn cadw ar frig y newidiadau a’n bod yn ymateb i’r newidiadau parhaus yn y sector addysg. Mae hyn wedi ein gwneud yn arweinwyr yn y sector. Yn wir, er mai posteri yw ein harbenigedd, mae’r busnes a’r hyn mae ein cynhyrchion yn eu cynnig wedi newid. 

Beth y mae hynny yn ei olygu felly? Un enghraifft yw bod ein posteri wal bellach wedi’u hintegreiddio gyda’n hapiau. Maen nhw wedi’u cysylltu â thechnoleg heb ei hail drwy godau QR sy’n arwain dysgwyr at ystod o ddeunyddiau rhyngweithiol. Ac er bod ein cynhyrchion craidd yn parhau i ganolbwyntio ar y cwricwlwm craidd, rydyn ni’n arloesi hefyd, gan ddylunio cynnwys newydd megis ein hadnodd a ddatblygwyd yn ddiweddar sy’n ymwneud ag iechyd meddwl. 

 

Ein marchnad fwyaf yw'r UDA ac rydyn ni ar fin lansio cyfres o bosteri ac apiau ar Hanes America. Nid oes dim byd tebyg i hyn ar gael ar y farchnad ac rydyn ni’n disgwyl iddynt werthu yn wych. Yn ogystal â phosteri addysgol Saesneg eu hiaith, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi cynnwys yn y Gymraeg ar gyfer Llywodraeth Cymru ac yng Ngaeleg yr Alban ar gyfer Stòrlann. Elusen yw hon a sefydlwyd gan Lywodraeth yr Alban i ymwneud â darpariaeth adnoddau addysgol drwy gyfrwng Gaeleg yr Alban.

O safbwynt eich busnes hyd yma, beth yw’r adegau rydych chi fwyaf balch ohonynt?
Bod yma heddiw yw’r hyn rydyn ni’n fwyaf balch ohono! Mae gennym ni ddyfodol disglair o’n blaenau. Rydyn ni’n arweinwyr sefydledig yn ein maes gyda’n golygon wedi’u gosod ar dyfu ymhellach, yn benodol yn yr UDA. O ran ein gobeithion felly, rydyn ni’n teimlo’n gyffrous. Rydyn ni’n falch o ran mor bell rydyn ni wedi dod ers i fy mam sefydlu’r cwmni ychydig o ddegawdau yn ôl.

Beth yw’r heriau busnes rydych chi wedi’u hwynebu?
Effeithiodd dirwasgiad 2008, a achoswyd gan gwymp y banciau arnom yn sylweddol. Arweiniodd y polisi cyni dilynol at y ffaith bod rhaid i ysgolion wario llai ar ddeunyddiau fel ein rhai ni a oedd yn cynnwys meddalwedd bwrdd gwyn rhyngweithiol costus.  Fodd bynnag, dangosom ein gallu i addasu a hynny drwy ddychwelyd at ein cynhyrchion traddodiadol.

Roedd COVID yn fygythiad enfawr arall i’n busnes. Unwaith y caewyd ysgolion, rhoddodd gwsmeriaid y gorau i brynu. Roedd hyn yn her sylweddol gan fod ysgolion wedi gorfod newid eu dulliau addysgu yn llwyr. Gorfodwyd ni i roi ein holl staff ar gynllun ffyrlo yn y lle cyntaf ac yna trefnu bod rhai ohonynt yn dychwelyd ar drefniant gweithio llai o oriau. Llwyddom i oroesi oherwydd inni newid ein ffordd o wneud pethau’n llwyr a hynny drwy ddosbarthu ein hystod o ganllawiau adolygu Pocket Poster yn uniongyrchol at gwsmeriaid drwy sianeli megis Amazon. Roedd rhieni a oedd yn ceisio cydbwyso gweithio o gartref a goruchwylio addysg eu plant bellach yn llawer iawn yn fwy ynghlwm wrth y byd addysg nag erioed o’r blaen. Roedd ein deunyddiau lliwgar sydd wedi’u cymeradwyo’n addysgol o gymorth iddynt felly. Llwyddodd marchnad yr UD i adfer yn gyflym a chyda chymorth Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rydyn ni wedi ennill poblogrwydd gwirioneddol yn y farchnad honno. Mae marchnad yr UDA yn gyfle cyffrous iawn inni ac mae gennym hefyd gynlluniau gwych ar gyfer marchnad y DU.

Pe baech chi’n dechrau arni eto, beth fyddech chi’n ei wneud yn wahanol?
Rydyn ni o hyd wedi chwilio am ddatrysiadau i broblemau wrth iddynt godi, gan nad oes modd i neb ragweld pob rhwystr y byddwch yn dod ar ei draws mewn busnes. Mae bod yn ystwyth yn ogystal â datblygu ein cynhyrchion wedi ein galluogi i barhau’n berthnasol, i ennill amser ac i ddatblygu’n gryfach wedi ergydion marchnadoedd allanol. 

Sut y mae cymorth gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi helpu’ch busnes?
Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru wedi bod yn hanfodol i’n busnes. Mae eu cyngor arbenigol o ran strategaethau busnes, marchnata, TG, effeithlonrwydd gweithredu ac allforio wedi ein helpu i dyfu ac wedi rhoi sail gref inni ar gyfer ein cyfnod o dwf nesaf. 

Byddwn yn cynghori unrhyw fusnes uchelgeisiol sy’n datblygu yng Nghymru i geisio cymorth gan raglenni megis Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru. Gallant fod yn effeithiol tu hwnt i gefnogi twf a datblygiad eich busnes. 

Pa gyngor ac arweiniad fyddech chi’n eu rhoi i fusnesau eraill sy’n cychwyn ar eu taith?

  • Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth gan raglenni megis Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.
  • Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o ddatblygiadau diweddaraf eich sector o hyd.
  • Sicrhewch eich bod yn parhau i ymchwilio i’ch marchnad er mwyn cadw cysylltiad â’ch cwsmeriaid a’u hanghenion sy’n datblygu.
  • Meistrolwch y dechnoleg sy’n berthnasol i gynhyrchion a marchnata.

     

 

I gael rhagor o wybodaeth am Daydream Education, ewch i’r wefan hon.

 

Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.




 

A picture containing graphical user interface

Description automatically generated

 

Mae Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru yn rhaglen Cymru gyfan sydd wedi’i hariannu yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Share this page

Print this page