Cefndir y Busnes: Yr Athro Amanda Kirby (y Prif Swyddog Gweithredol) a Dr Ian Smythe (y Prif Swyddog Gweithredu) a sefydlodd DoIT Solutions. Mae Amanda yn dod o gefndir clinigol ac academaidd fel meddyg a niwrowyddonydd. Amanda sy'n rheoli'r cwmni ac sy'n arwain ar werthu a chyfathrebu. Ian sy'n arwain o ran datblygiad technegol. Mae gan yr entrepreneuriaid hyn dros 25 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes anawsterau dysgu ac maent wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am eu gwaith. Mae ganddynt gyfoeth o brofiad o anghenion go iawn pobl ar gyrion addysg a chyflogaeth sydd, o bosibl, yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag llwyddo, gan gynnwys heriau dysgu. Mae Amanda yn frwdfrydig iawn dros y gwaith gan ei bod yn rhiant i oedolyn niwroamrywiol a magodd ddiddordeb personol ac yna yn broffesiynol. Mae hyn yn golygu bod Ian ac Amanda wedi ystyried atebion ymarferol y gellir eu cyflwyno er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn. Gyda gweithlu sy'n tyfu, mae'r cwmni yn gweithio ar draws amryfal sectorau, gan gynnwys addysg, cyflogaeth, prentisiaethau a'r System Cyfiawnder Troseddol.

Meddalwedd fel gwasanaeth yw Do-IT Profiler. Mae'r system a ddatblygwyd yn system sgrinio ac asesu modiwlar sy'n byw ar blatfform rheoli gwybodaeth ac sy'n caniatáu asesu ar raddfa fawr ond sydd hefyd yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad unigol i'r unigolyn a'i gydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys cymorth mewn perthynas â dysgu, cymdeithasu, ac iechyd a lles yn ogystal â rhoi cymorth mewn perthynas â gwella deilliannau addysg a chyflogaeth. Mae pob sector sy'n defnyddio Profiler yn darparu offer addas i’r oedran a'r sefyllfa er mwyn helpu. Ar hyn o bryd mae gan y cwmni 7 aelod o staff ac mae trefniadau ar waith ar gyfer recriwtio pellach. Mae ymgynghorwyr sy'n gweithio gyda tîm Do-IT hefyd.
 


Dechreuodd y cwmni drwy ddatblygu offer sgrinio ar gyfer niwroamrywiaeth/anawsterau dysgu, gan gydnabod bod angen cefnogi unigolion ym mhob agwedd ar eu bywydau. Gwnaethant ddechrau gweithio mewn sefyllfaoedd heriol yn gynnar yn eu datblygiad. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda charchardai a gweithio mewn lleoliadau amlieithog a gwledig yn Ne Affrica. Mae'r angen i addasu a datrys problemau yn sicrhau bod eu system yn darparu cymorth ymarferol ac mae hynny bob amser wedi bod yn flaenoriaeth. Roedd yn caniatáu iddynt ddatblygu datrysiadau i fodloni anghenion cleientiaid a bod yn hyblyg. Roedd hynny’n hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni anghenion y bobl yr oeddem  yn gweithio gyda hwy ac yn canfod atebion. Tan yn ddiweddar mae Do-IT wedi bod yn ei ariannu ei hun,  ac yn cael ecwiti ar ffurf llafur gan y sefydlwyr.

Mae Profiler bellach yn cael ei ddefnyddio mewn sawl carchar ledled y DU fel y prif offeryn sgrinio a chefnogi. Yng Nghymru, mae'n ddwyieithog ac mae 4 iaith ychwanegol ar gael hyd yn hyn. Mae hefyd wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth i gefnogi pobl i gael gwaith a chan sefydliadau megis y sector prentisiaeth a phobl sydd, o bosibl, yn niwroamrywiol (dyslecsia, dyspracsia, ADHD, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth a heriau ieithyddol e.e. Swyddogion Carchar, y gwasanaeth tân ac mewn lleoliadau cyflogaeth a hyfforddiant eraill). Mae'n golygu bod modd gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y person, gan ganolbwyntio'n arbennig ar helpu'r rheini sydd â rhwystrau sy’n eu hatal rhag dysgu a chael cyflogaeth ar lefel sefydliadol ac mae'n effeithiol o ran amser a chost, gan leihau’r angen i fewnbynnu data a darparu penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata. Mae'r offer hefyd yn helpu i ddatblygu gweithwyr proffesiynol sy'n cydweithio ag unigolion drwy eu dysgu sut i ddarparu atebion personol yn fwy hyderus.

Mae'r sefydliadau y maent wedi gweithio gyda hwy yn cynnwys JP Morgan, prifysgolion gan gynnwys Aberfal/Caerwysg/Caerlŷr, a RehabJobFit a Remploy. Yn Ne Affrica, mae'n cael ei ddefnyddio yn nhalaith Gauteng mewn ysgolion a cholegau ac mae'n cael ei gyfieithu i Afrikaans, Sotho a Xhosa.

Beth fyddent yn ei wneud yn wahanol?Cael mynediad at gymorth ac arweiniad yn gynt yn ein datblygiad. Cael buddsoddiad ychydig yn gynt.

Diwrnod gorau eu busnesAdborth gwych gan gleientiaid a chymeradwyaeth gan sefydliadau bod yr hyn rydym yn ei wneud yn gywir.

Ydyn nhw'n defnyddio'r Gymraeg yn eu busnes? Os felly, sut wnaeth hynny eu helpu?Mae gennym systemau dwyieithog yng ngharchardai Cymru. Rydym yn sylweddoli bod hygyrchedd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud, felly mae darparu'r wybodaeth mewn ystod o ieithoedd a chwrdd ag anghenion yn bwysig iawn i ni.
 

Cefnogaeth Rhaglen Twf CyflymMae cymorth gan fentor Cyflymu Twf wedi ein helpu i ystyried sut yr ydym yn mynd ati i farchnata a'n negeseuon marchnata wrth inni ehangu. Mae hefyd wedi ein helpu gyda’n prosesau GDPR.

Prif Gynghorion
Byddwch yn barod i weithio’n galed iawn
Byddwch yn frwdfrydig dros yr hyn rydych yn ei wneud
Byddwch yn hyblyg ac yn rhan o'r atebion
Gofynnwch am gyngor o hyd − mae llawer o bobl yn barod i'ch helpu − ond cofiwch fod yn feirniadol ac yn fyfyriol hefyd − eich busnes chi ydyw.


Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.


 

 

Share this page

Print this page