Sam Gibson - Rheolwr Gyfarwyddwr Enjovia. Cyn sefydlu Enjovia roedd Sam yn rhan o dîm rheoli’r Alacrity Foundation, Elusen Entrepreneuraidd a sefydlwyd fel mater o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a nifer o ddyngarwyr preifat gan gynnwys Syr Terry Matthews. Graddiodd Sam o Brifysgol Abertawe gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Rheoli Busnes ac mae’n byw gyda’i wraig a’i blentyn yng Nghaerffili.
Mae Enjovia yn gwmni technoleg o Gymru sy’n gweithredu o Gasnewydd. Mae’n darparu system talebau rhodd sy’n hawdd eu defnyddio ac sy’n galluogi busnesau i werthu a rheoli eu rhoddion, eu profiadau a’u tocynnau ar-lein. Rydym yn gweithredu o Ganolfan Arloesi Wesley Clover ac ar hyn o bryd mae ganddynt 4 o weithwyr cyflogedig a 11 contractwr. Mae Enjovia yn gwmni sy’n gwneud elw ac sy’n gweld twf sylweddol ar hyn o bryd, mae nifer ein cwsmeriaid wedi dyblu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae cyfradd twf yn cynyddu. Rydym wedi cynyddu nifer ein cwsmeriaid 30% yn ystod y 3 mis diwethaf.
Mae Enjovia wrthi’n cynllunio i ehangu’n sylweddol yn rhyngwladol yn 2019 gan ganolbwyntio ar farchnad Ewrop a Gogledd yr Unol Daleithiau lle rydym eisoes wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Rydym yn targedu Gwestai, Bwytai, y sector Hamdden, Atyniadau, Sbas neu unrhyw fusnes sydd â phwyslais ar ddarparu profiadau. Gall Talebau Rhodd fod yn ffrwd sylweddol o refeniw i unrhyw fusnes, mae Gwesty Hamdden y Celtic Manor, ein cleient mwyaf, yn gwneud £2.4 miliwn a mwy drwy werthu talebau rhodd.
Mae Enjovia yn deillio o’r rhaglen Alacrity a oedd yn fenter gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, y Waterloo Foundation, Wesley Clover ac Andrew Probert. Mae Alacrity yn elusen addysgol sy’n mentora ac ariannu graddedigion ifanc er mwyn sicrhau bod ganddynt y cyfle i gychwyn eu cwmnïau technoleg eu hunain yng Nghymru. Mae Enjovia wedi cydweithio â nifer o sefydliadau’n allanol, roeddem yn rhan o raglen Gyflymu Bizspark y Natwest, ac rydym yn cydweithio’n rheolaidd ag Ymddiriedolaeth y Tywysog ac Academi Codez i ddarparu profiad gwaith a mentora i bobl ifanc.
Yr hyn y byddai Enjovia yn ei wneud yn wahanol?
Meddwl am hyblygrwydd a mynediad. Rydym wedi ail lansio ein platfform fel y gall pobl greu eu siop eu hunain mewn eiliadau, drwy ein platfform blaenorol roedd yn ofynnol i ni sefydlu ein cwsmeriaid, a fyddai’n cymryd diwrnodau weithiau. Rydym yn difaru na wnaethom wneud ein platfform yn hyblyg o’r cychwyn cyntaf.
Fe wnaethom ddilyn llwybr traddodiadol o ran twf hefyd, drwy negeseuon e-bost, ffeiriau masnach a dulliau galw diwahoddiad. Yn ddiweddar, rydym wedi cyfuno hyn â dull a arweinir gan ddata, gan ddefndydio Google Ads, Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) a chael arbenigwyr marchnata i ddod i mewn i’r cwmni, ac mae wedi trawsnewid y busnes. Yn flaenorol, roedd diffyg amser yn ein cyfyngu, dim ond nifer penodol o bobl y gallwch ffonio mewn un diwrnod! Drwy farchnata ar-lein, gallwn gyrraedd miloedd o bobl, yn fyd-eang, bob dydd.
Y testun balchder mwyaf: Dod yn gwmni sy’n gwneud elw!
Ydynt yn defnyddio’r Gymraeg yn eu busnes? Rydym wedi gwneud ein gorau i gefnogi busnesau iaith Gymraeg, bydd ein platfform newydd yn gwbl ddwyieithog.
Ar gyfer eu pecyn cymorth cyntaf gyda’r Rhaglen Twf Cyflym, defnddiwyd Lee Woodman, yr hyfforddwr i gynorthwyo’r busnes i ymchwilio i Gystadleuwyr a’r Sector. Nod y darn hwn o waith oedd cael darlun cliriach o’u sector ac i ddeall lle’r oedd cystadleuwyr yn canolbwyntio eu hymdrechion marchnata digidol a pham. Roedd y gwaith hwn yn tynnu sylw at gystadleuwyr allweddol ac yn cyflwyno cyfleoedd nad oedd cystadleuwyr wedi manteisio arnynt yn eu platfformau eu hunain ac y gallai Enjovia ei wneud yn well. Fe wnaeth y canfyddiad hwn helpu Enjovia i nodi cyfryngau i’w targedu yn ogystal â helpu’r busnes i gael gwell dealltwriaeth o’u cynulleidfa er mwyn llunio eu Meddalwedd newydd fel platfform Gwasanaeth a fydd yn lansio’n gynnar yn 2019.
Cyflwynodd Visit Digital ganllawiau i Enjovia o’r hyn yr oedd angen ei gyflawni i gymryd cyfran o’r farchnad oddi wrth gystadleuwyr a chyfleoedd i gynyddu gwerthiant i gleientiaid presennol. Rhoddodd Lee gymorth i’r tîm datblygu technegol fel y gallai gynnwys arferion gorau yn ymwneud â marchnata digidol ar draws eu platfform SaaS newydd.
Fe wnaeth Adnoddau fel Google Analytics a Google Search Console roi darlun cliriach er mwyn helpu Enjovia i ganolbwyntio ar y cyfleoedd ac i ychwanegu Gwe-sgwrs ar eu gwefan marchnata a oedd yn caniatáu i bobl a oedd yn ymweld â’r wefan i droi’n ddarpar-brynwyr yn gyflym.
Roedd Lee am fod mewn sefyllfa lle gallai’r busnes ganolbwyntio’n hyderus ar dyfu’n ddiogel ganfod yn dawel eu meddwl bod y wefan marchnata newydd a’r platform SaaS yn gwneud popeth posibl i ganfod cwsmeriaid newydd 24/7. Fel codydd ac ymgynghorydd marchnata digidol ar gyfer brandiau fel y Lad Bible Group a Chelsea Magazines roedd ganddo ddealltwriaeth sylweddol o sector y cyfryngau digidol er mwyn dangos i Enjovia pa lwybr y dylai ei gymryd i dyfu’r busnes ar y cyfryngau digidol.
O ran perfformiad busnes, mae Enjovia wedi mynd o gael 2 ddarpar-gwsmer y mis o gyfryngau digidol cyn cael cymorth gan y Rhaglen Twf Cyflym i gael 3-4 darpar-gwmser yr wythnos o’r cyfryngau digidol ac mae’r prysurdeb a’r busnes yn parhau i dyfu. Mae Lee wedi trawsnewid ein busnes yn gyfan gwbl ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio ag ef yn y dyfodol.
Prif Gynghorion:
- Gwrandewch ar yr hyn y mae eich cwsmeriaid am ei gael a dilyn eu canllawiau.
- Canolbwyntiwch ar werthiant, os oes gennych werthiant da, bydd popeth arall yn disgyn i’w le.
- Gofynnwch am gyngor a chymorth, mae yna amrywiaeth eang o raglenni (Busnes Cymru) ac unigolion a fyddai wrth eu bodd yn helpu busnes lleol i dyfu. Os nad ydych yn gofyn chewch chi ddim byd!
Rhagor o wybodaeth am Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.